Cymeradwyo cynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri
Mae pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo cynllun trydan dŵr dadleuol yn Eryri.
Mewn cyfarfod ddydd Mercher, fe wnaeth aelodau'r pwyllgor bleidleisio o blaid y cais o wyth i saith pleidlais, gyda neb yn ymatal.
Fe wnaeth y brodyr Elis Dafydd, Moi Dafydd a Dafydd Elis gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad 600 cilowat ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog yn 2024.
Yn ôl y brodyr, sy'n dod o'r Bala, byddai'r cynllun yn ardal Rhaeadr y Cwm yn defnyddio grym yr afon i ddarparu digon o drydan ar gyfer 700 o gartrefi.
Cafodd y cais ei gyflwyno gyntaf yn 2024, ac roedd eu hail gais i fod i gael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Ionawr.
Er i gynlluniau'r gorffennol fethu â dwyn ffrwyth, roedd swyddogion cynllunio'r Parc Cenedlaethol wedi argymell caniatáu'r cynllun.
Ond roedd y cynllun wedi wynebu gwrthwynebiad cryf ar sail amgylcheddol a'r effaith y bydd yn ei gael ar Bont yr Afon Gam a Rhaeadr y Cwm.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher eu bod wedi derbyn dros 1,700 o wrthwynebiadau erbyn hyn.
Ymhlith y gwrthwynebwyr roedd grwpiau amgylcheddol gan gynnwys Cymdeithas Parc Eryri a'r sefydliad Save Our Rivers.
Yn wreiddiol roedd Cyngor Tref Ffestiniog wedi cefnogi'r cynlluniau, ond maen nhw bellach wedi gwneud tro pedol.
Dim ond ychydig o dan 140 o sylwadau oedd o blaid y cynllun yn ystod yr ymgynghoriad.
Lle fydd y datblygiad?
Bydd y datblygiad ar dir Fferm Cwm sydd ar gyrion ucheldiroedd y Migneint - tir dynodedig lle mae mynediad agored.
Mae'r safle tua 1.2 cilomedr i'r gorllewin o'r gyffordd B4407, a 3.8 cilomedr i'r dwyrain o Lan Ffestiniog.
Fel rhan o'r cynllun, bydd pibell danddaearol yn cludo hyd at 70% o ddŵr o Raeadr y Cwm i dŷ tyrbin, cyn ei ddychwelyd i Afon Cynfal ar waelod y rhaeadr. Bydd y trydan sy'n cael ei gynhyrchu yn cael ei gludo drwy geblau i'r grid.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi rhoi trwydded i dynnu dŵr o Afon Cynfal i gynhyrchu trydan yn dilyn ymgynghoriad.
Byddai'r cynllun ond yn cael tynnu dŵr o'r afon pan fydd digon o ddŵr ar ôl ynddi.
Yn ôl swyddogion cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, byddai "effeithiau andwyol mawr-cymedrol" ar y dirwedd, ond y byddai'n "gyfyngedig i ardal leol iawn".
Dywedodd y swyddogion eu bod yn argymell cymeradwyo'r cais: "Mae'r datblygiad arfaethedig yn darparu capasati cynhyrchu trydan adnewyddadwy ychwanegol sy'n cyd-fynd â chwmpas polisiau ynni a hinsawdd cenedlaethol ac yn cefnogi'r targedau rhyngwladol a chenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy.
"Wrth ddod i'r canfyddiad hwn, nodir, gydag amodau a argymhellir ar waith, nad oed unrhyw effeithiau gweledol annerbyniol ar gymunedau na thai cyfagos, ar safleoedd cadwraeth natur a ddynodwyd yn rhygnwladol neu'n genedlaethol na'u nodweddion a bod gwelliant bioamyrwiaeth yn cael ei gynnig."
Wrth drafod y cais yn ystod y cyfarfod, dywedodd yr ymgeisydd Moi Dafydd fod y broses o ddatblygu'r cynllun wedi bod yn "llafur cariad ers blynyddoedd".
"Rydym wedi deall ers y dechrau bod angen cydbwyso helpu'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd tra hefyd yn amddiffyn yr amgylchedd leol arbennig sydd gennym yn Eryri," meddai.
"Mae gan y cynllun botensial i gynhyrchu 2 filiwn cilowat y flwyddyn, sy'n ddigon i bweru tua 700 o dai lleol ag arbed hyd at 1,962 tunnell o garbon y flwyddyn.
"Rydym wedi treulio llawer o amser ac adnoddau i brofi na fydd y cynllun yn cael effaith negyddol.
"Rydym wedi comisiynu nifer o arbenigwyr yn y maes i asesu'r safle a'r effaith a fydd y cynllun yn ei gael.
"Ac rydym yn hynod o falch eu bod wedi dod i'r casgliad, gyda'r mesurau lliniaru cywir, y bydd y cynllun yn ymdoddi i'r dirwedd yn union fel y degau o gynlluniau hydro eraill sydd eisoes wedi'u hadeiladu yn Eryri ers dros ganrif.
"Mae hefyd yn bwysig cofio y bydd y cynllun yn creu trydan pan mae angen fwyaf, sef y misoedd gwlyb a thywyll y gaeaf pan mae llai o ymwelwyr o gwmpas."