Cymeradwyo cynllun dadleuol i ganoli gwasanaethau strôc y gorllewin

Unedau Stroc Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo mewn egwyddor gynllun dadleuol i ganoli gwasanaethau strôc arbenigol yng Nghaerfyrddin.

Mae’r cynllun yn golygu y byddai un ganolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau strôc yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Glangwili, neu ar safle arall yn yr ardal, gyda newidiadau i wasanaethau mewn tair ysbyty arall yn y gorllewin.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn ystod cyfarfod o’r bwrdd iechyd ddydd Iau, yn dilyn dau gyfnod o ymgynghori cyhoeddus.

Mae’r gymeradwyaeth yn amodol ar fodloni nifer o feini prawf, gan gynnwys sicrhau bod gan y ganolfan yr adnoddau priodol i ddarparu’r gwasanaethau.

Mae’r cynllun wedi wynebu gwrthwynebiad cryf, yn enwedig yn ardal Aberystwyth, gyda phryderon am y pellter y byddai’n rhaid i gleifion deithio i gael triniaeth arbenigol.

Image
Protestio yn Aberystwyth

Ond yn ôl y bwrdd iechyd, mae angen newid y ddarpariaeth bresennol er mwyn gwella diogelwch cleifion a bodloni safonau clinigol cenedlaethol.

Yn ystod y cyfarfod, wrth drafod yr ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Alex Martin, Prif Reolwr Rhaglen yn Hywel Dda, fod cefnogaeth i ddiwygio gwasanaethau strôc er mwyn gwella’r ddarpariaeth, ond bod anghytundeb ynglŷn â lle y dylai’r gwasanaethau gael eu lleoli.

Cafodd pryderon eu codi am natur wledig dalgylch y bwrdd iechyd, yn enwedig y pellter y byddai’n rhaid i gleifion yng ngogledd y dalgylch deithio i Gaerfyrddin i gael gofal strôc arbenigol.

Wrth gyflwyno tystiolaeth ar y cynllun, fe wnaeth Dr Shakeel Ahmad, Arweinydd Clinigol ar gyfer Strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, esbonio bod gofal nyrsio dwys yn dilyn strôc yn hollbwysig er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.

Cyfeiriodd Dr Ahmad hefyd at y ffaith bod cleifion sydd wedi cael trawiad ar y galon eisoes yn cael eu cludo i Ysbyty Treforys mewn rhai achosion, gan ddweud nad oedd rheswm pam na ellid mabwysiadu trefniadau tebyg ar gyfer cleifion sydd wedi cael strôc.

Dywedodd yr Athro Philip Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod triniaethau ar gyfer strôc wedi datblygu ac felly’n gofyn am gyfleusterau arbenigol.

Oherwydd hynny, meddai, nid yw’n ymarferol darparu’r triniaethau hynny ym mhob ysbyty.

Beth fydd yn newid?

Ar hyn o bryd, mae unedau strôc ym mhedair prif ysbyty’r bwrdd iechyd, sef Glangwili yng Nghaerfyrddin, y Tywysog Philip yn Llanelli, Llwynhelyg yn Hwlffordd a Bronglais yn Aberystwyth.

O dan y cynllun newydd, byddai un uned strôc acíwt 24 awr yn gwasanaethu dalgylch cyfan y bwrdd iechyd.

Byddai gwasanaethau trin a throsglwyddo yn yr ysbytai eraill, gyda chleifion yn cael asesiad a thriniaeth gychwynnol cyn cael eu trosglwyddo i’r ganolfan arbenigol os oes angen gofal strôc acíwt arnyn nhw.

Byddai uned adsefydlu strôc hefyd yn Ysbyty Bronglais, gyda chleifion o’r ardal yn gallu dychwelyd yno i gael gofal adsefydlu yn dilyn triniaeth yn y ganolfan arbenigol.

Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, bydd cleifion sydd angen triniaeth thrombectomi, sef triniaeth i gael gwared ar glot gwaed mewn rhydweli yn yr ymennydd, yn cael eu trosglwyddo i ganolfannau arbenigol yng Nghaerdydd neu Fryste.

Yn ôl y bwrdd iechyd, nid yw’r gwasanaethau presennol yn bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson, ac nid oes gwasanaeth strôc arbenigol ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Gwrthwynebiad

Fe wnaeth dros 3,000 o bobl rannu eu barn fel rhan o ail gyfnod yr ymgynghoriad, a gafodd ei gynnal rhwng 28 Mai a 26 Gorffennaf eleni.

Fe wnaeth dros 750 o bobl ymateb i holiadur fel rhan o’r ymgynghoriad.

Roedd 69% o’r rhai a atebodd gwestiwn am fanteision y cynllun yn anghytuno y byddai’n helpu i wella safonau clinigol a diogelwch cleifion, a mynd i’r afael â phrinder staff.

Roedd 24% yn cytuno.

Roedd pryderon am amseroedd teithio, y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans a’r effaith ar deuluoedd cleifion ymhlith y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Cafodd pryderon eu codi hefyd ynglŷn ag a fyddai digon o therapyddion sy’n medru’r Gymraeg o dan y cynllun newydd.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am gadw gwasanaethau strôc acíwt yn Ysbyty Bronglais ers i’r cynlluniau ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau ddod i’r amlwg yn 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.