Cyhuddo dyn o lofruddio myfyriwr 21 oed o Abertawe ym Mryste

Jamie Collins

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio myfyriwr o Abertawe mewn tref ger Bryste.

Cafodd Zack Coughlan, 23 oed, ei arestio ddydd Sul ac mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Jamie Collins.

Fe wnaeth Mr Coughlan ymddangos yn Llys y Goron Bryste ddydd Mercher.

Roedd Jamie Collins yn fyfyriwr roboteg 21 oed oedd yn astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardd gefn tŷ yr oedd y ddau ddyn yn ei rannu ar Ffordd Cleve yn oriau cynnar dydd Iau 9 Ebrill.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Collins: "Ni all geiriau ddisgrifio sut yr ydyn ni'n teimlo ar hyn o bryd. Roedd Jamie yn ddyn ifanc disglair, caredig, addfwyn a diymhongar gyda'i fywyd cyfan o'i flaen.

"Roedd yn edrych ymlaen at orffen ei daith yn y brifysgol ac wedi cynllunio dod yn ôl adref atom ni yn Abertawe mewn ychydig wythnosau.

"Rydym ni'n gwybod ei fod yn wynebu dyfodol hynod o lwyddiannus yn dilyn ei radd mewn peirianneg a roboteg."

Prifysgol

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Gorllewin Lloegr: “Mae’r brifysgol wedi’i syfrdanu gan y newyddion am farwolaeth ein myfyriwr Jamie mewn amgylchiadau mor ofidus.

“Mae ein meddyliau gyda theulu Jamie yn yr amser hynod drist hwn.

“Yn ogystal ag astudio roboteg, roedd Jamie hefyd yn aelod gweithgar o gymdeithasau myfyrwyr Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste.

“Bydd y brifysgol yn cefnogi myfyrwyr a astudiodd gyda Jamie a staff sydd wedi eu heffeithio yn uniongyrchol gan ei farwolaeth.

“Rydym wedi bod yn cysylltu’n agos â’r heddlu i gefnogi eu hymchwiliad.”

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lucy Edgeworth o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, nad oedd Mr Collins wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Cadarnhaodd fod yr heddlu'n rhyddhau ei enw, gyda gwybodaeth ei deulu, gan y byddai'n rhan o achos llys.

"Mae ein meddyliau gyda theulu Jamie yn ystod yr amser anodd hwn ac mae swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn cynnig cefnogaeth iddynt ac yn eu diweddaru'n rheolaidd gyda'n hymchwiliad," meddai.

"Byddem yn gofyn yn gwrtais i bobl barhau i barchu eu preifatrwydd.

"Bydd pobl a oedd yn adnabod Jamie yn amlwg wedi synnu ac yn drist iawn o glywed am yr hyn sydd wedi digwydd."

Teyrnged tafarn

Mewn teyrnged i Mr Collins ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd tafarn y Crofty Inn, Abertawe, ei fod wedi gweithio yna y llynedd cyn symud i Fryste.

"Roedd ganddo enaid garedig ac roedd yn weithiwr caled ac enillodd galonnau'r staff a'r bobl leol yn gyflym, gan ddod yn rhan o deulu'r Crofty yn syth."

Ychwanegodd y datganiad: "Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ei ffrindiau, a phawb a gafodd y fraint o'i adnabod yn ystod yr amser anodd hwn.

"Gyda difrifoldeb y digwyddiad, mae wedi bod yn sioc ddinistriol i bawb. Gofynnwn yn garedig am eich amynedd a'ch dealltwriaeth gyda'n staff dros yr wythnosau nesaf, wrth i ni gefnogi ein gilydd a dod i delerau â'r golled drasig hon."

 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.