Cyfres newydd yn dangos y pwysau ar wasanaeth digartrefedd Gwynedd

Am Le i Fyw

Mae cyfres ddogfen newydd yn cynnig cip-olwg brin ar y pwysau sy’n wynebu gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd a’r bobl sy’n troi ato am gymorth.

Wedi’i ffilmio dros gyfnod o chwe mis, mae Am Le i Fyw yn dilyn swyddogion y gwasanaeth wrth iddynt ymateb i alwadau am gymorth, trefnu llety dros dro a chefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd.

Mae’r gyfres yn cael ei darlledu wrth i brinder eiddo a phwysau ariannol roi straen cynyddol ar wasanaethau tai ledled Cymru.

Mae Cyngor Gwynedd yn gwario tua £6 miliwn y flwyddyn ar lety brys, sy’n costio £81 y noson ar gyfartaledd.

‘Fedra i’m cysgu’

Mae’r bennod gyntaf yn dilyn David, 62 oed, sydd wedi treulio dros bedwar mis mewn llety dros dro yn dilyn diwedd perthynas.

Er bod ganddo fflat, mae’n cael ei ystyried yn ddigartref gan nad oes ganddo denantiaeth barhaol.

Ac yntau wedi dioddef strôc, mae David yn poeni y gallai gwympo a brifo ei hun heb i neb wybod. 

Mae hefyd yn dweud bod byw yn y fflat yn effeithio ar ei iechyd meddwl.

Yn ystod y bennod, mae’n penderfynu talu i aros mewn gwesty lleol am ychydig ddyddiau oherwydd y sŵn a’r ffraeo yn y fflat.

“Dwi’n gorfod mynd o ’ma i Travelodge Caernarfon i gael bwyd iawn a chwsg iawn.

“Fedra i’m fforddio fo, faint dwi’n talu am y Travelodge yma, ond fedra i’m cysgu yn y fflat ’na.

Enough’s enough, wan. Dwi ’di cael llond y mol o’r lle yma.”

Mae Mr Miller, 77 oed, hefyd yn ymddangos yn y bennod gyntaf. Mae wedi bod yn byw mewn carafán ers 2012, ond wrth i bryderon am ei iechyd gynyddu, mae’r tîm yn gweithio gyda gwasanaethau lleol i geisio dod o hyd i gartref parhaol iddo.

Mae’r rhaglen hefyd yn tynnu sylw at effaith digartrefedd ar deuluoedd. Yn y bennod gyntaf, mae’r tîm yn prynu anrhegion Nadolig i 72 o blant sy’n byw mewn llety dros dro ledled Gwynedd.

'Gwneud gwahaniaeth'

Dywedodd Colleen Pritchard, Rheolwr Gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Gwynedd, nad yw’n faes hawdd i weithio ynddo, ond ei bod hi a’i thîm yn credu bod y gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.

“Dydi o ddim yn faes hawdd i weithio ynddo fo. Ond mi ydyn ni’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.

“Fyswn i’n mynd mor bell â dweud ein bod ni’n newid bywydau pobl a safio bywydau pobl.”

Daw’r gyfres wrth i ddigartrefedd hawlio’r penawdau’n genedlaethol, gyda’r Prif Weinidog Andy Burnham wedi cyhoeddi ei fwriad i ddod â digartrefedd i ben.

Bydd cyfres Am Le i Fyw yn dechrau am 21:00 ddydd Mawrth 8 Medi ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.