Cyfle i bobl Ynys Môn ddewis enw ar gyfer atomfa newydd ar safle'r Wylfa

Wylfa

Mae cwmni Great British Energy – Nuclear wedi gwahodd pobl Ynys Môn i gynnig enw ar gyfer yr orsaf niwclear newydd sydd wedi’i chynllunio ar gyfer safle’r Wylfa.

Mae’r cwmni, sy’n arwain cynlluniau’r llywodraeth i ddatblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear yn y Deyrnas Unedig, wedi dweud ei fod am "sicrhau bod y gymuned leol yn chwarae rhan ganolog" yn natblygiad y prosiect o’r cychwyn cyntaf.

Bydd safle’r Wylfa, sydd wedi bod yng nghanol trafodaethau am ddyfodol ynni yng Nghymru ers blynyddoedd, yn cael ei ddatblygu fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i gryfhau diogelwch ynni’r DU a lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil ac ar fewnforion tramor.

Mewn datganiad, dywedodd Great British Energy – Nuclear fod enwi’r orsaf yn gyfle i gydnabod treftadaeth, diwylliant ac iaith yr ardal, gyda thrigolion lleol yn cael eu hannog i gyflwyno awgrymiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r cwmni wedi awgrymu y gallai’r enw newydd adlewyrchu cysylltiad yr ynys â’r môr, natur, hanes diwydiannol neu’r iaith Gymraeg ei hun. Bydd panel sy’n cynnwys pobl ifanc, cynrychiolwyr lleol ac arbenigwyr yn ystyried yr enwau cyn llunio rhestr fer.

Mae’r cyhoeddiad eisoes wedi sbarduno trafodaeth ar draws Ynys Môn, gyda rhai’n croesawu’r cyfle i gynnwys y gymuned mewn prosiect mor arwyddocaol, tra bod eraill yn dadlau y dylid canolbwyntio yn gyntaf ar faterion megis swyddi, seilwaith a’r effaith amgylcheddol.

Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud y gallai datblygiad newydd ar safle’r Wylfa greu miloedd o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol dros y degawdau nesaf, yn ogystal â darparu hwb economaidd mawr i’r ardal.

Yn y cyfamser, mae gwrthwynebwyr yn parhau i godi pryderon am ddiogelwch niwclear, gwastraff ymbelydrol ac effaith bosibl unrhyw ddatblygiad mawr ar gymunedau lleol a’r amgylchedd naturiol.

Fe fydd y cwmni yn derbyn awgrymiadau ar gyfer yr enw hyd nes 17:00 ar 8 Mehefin, gyda phlant a disgyblion ysgol lleol yn cael eu hannog yn benodol i gynnig syniadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.