Mae tua un o bob pump o bobl ym Mhrydain yn credu bod problemau iechyd meddwl yn cael eu defnyddio fel esgus, yn ôl arolwg.
Ond fe wnaeth bron i dri chwarter y rhai gafodd eu holi ddweud bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol.
Cafodd yr arolwg o fwy na 4,000 o oedolion gan More in Common, a gomisiynwyd gan Wellcome, ei gynnal er mwyn ymchwilio i ba raddau mae’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o iechyd meddwl wedi arwain at welliannau i gleifion.
Dywedodd 22% o bobl eu bod yn credu bod iechyd meddwl yn cael ei ddefnyddio fel "esgus".
Ond fe ddywedodd 63% fod trafodaethau am iechyd meddwl yn adlewyrchu pryderon gwirioneddol unigolion.
Dywedodd bron i dri chwarter y bobl (73%) fod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol, tra dywedodd 77% y byddent yn teimlo’n gyfforddus petai ffrind yn siarad yn agored â nhw am ei iechyd meddwl.
Roedd tua wyth o bob 10 (81%) o blaid helpu pobl yn gynharach, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol yn unig.
Dywedodd Paul Spencer, pennaeth polisi iechyd meddwl Wellcome: “Mae’n galonogol iawn gweld cymaint mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn poeni am iechyd meddwl.
“Ar draws y sbectrwm gwleidyddol, maen nhw eisiau gweld pobl yn cael cymorth cyn gynted â phosib, ymhell cyn iddyn nhw gyrraedd argyfwng. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn credu’r naratif am genhedlaeth y bluen eira ('snowflake').”
Dywedodd Brian Dow, prif weithredwr Mental Health UK: “Mae’n annhebygol bod teulu yn y wlad hon sydd heb gael ei effeithio mewn rhyw ffordd gan iechyd meddwl gwael.
“Nid yw iechyd meddwl yn fater sy’n ein rhannu. Yn wir, fel mae’r ymchwil hwn yn ei ddangos, mae’n rhywbeth sy’n uno pobl o wahanol rannau o gymdeithas ac sy’n adlewyrchu’r ymdeimlad o degwch y mae pobl Prydain yn ei werthfawrogi.”