Tri wedi’u cludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Pwllheli
Mae tri o bobl wedi’u cludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd ger Pwllheli ym Mhen Llŷn nos Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r A499 ar gyrion Y Ffôr toc wedi 21:30 ddydd Iau, ar ôl adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd yno.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod tri o bobl wedi’u cludo i’r ysbyty wedi'r digwyddiad.
Nid yw eu hanafiadau’n cael eu hystyried yn rhai sy’n peryglu bywyd, meddai'r llu.
Cafodd y ffordd ei chau dros dro tra bod yr heddlu, ynghyd â chriwiau’r gwasanaeth tân a’r ambiwlans, yn ymateb i'r digwyddiad.
Llun: Ffordd yr A499 ger Y Ffôr (Google Maps)