Spencer Matthews wedi cwblhau her 24 awr ar Yr Wyddfa
Mae’r cyflwynydd teledu Spencer Matthews wedi cwblhau her o ddringo’r Wyddfa chwe gwaith mewn 24 awr.
Fe ddechreuodd yr her toc wedi 10 o'r gloch fore Iau, Mai 21.
Fe lwyddodd Matthews, a ddaeth i amlygrwydd fel un o aelodau gwreiddiol cast y rhaglen realiti Made in Chelsea ar E4, i gwblhau'r her mewn 22 awr a 47 munud.
Mewn neges ar ei gyfryngau cymdeithasol ar ôl gorffen, dywedodd ei bod wedi bod yn “noson anodd”.
Roedd yr her yn cynnwys cwblhau llwybr 92km penodol o amgylch yr Wyddfa, gan ddringo a disgyn chwe ochr y mynydd.
Yn ôl Virgin Media O2, oedd yn noddi'r her, nid oedd y llwybr wedi cael ei gwblhau o’r blaen.
Roedd yr her yn cynnwys tua 6,500m o ddringo, sy’n fwy na dringo o lefel y môr i gopa Mynydd Everest o ran uchder fertigol.
Cyn dechrau’r her, dywedodd Matthews fod ganddi’r potensial i fod “y diwrnod anoddaf” iddo ei wynebu erioed mewn her gorfforol.
“Mae gan hon y potensial i fod yn beryglus iawn,” meddai.
“Allwch chi ddim cymryd mynydd fel yr Wyddfa yn ganiataol.”
Wrth ddisgrifio natur yr her, dywedodd Matthews ei bod yn “araf”, yn “galed”, yn “dywyll” ac yn “heriol”.
“Fe fyddwch chi eisiau stopio droeon,” meddai.
Mae Matthews wedi ymgymryd â sawl her gorfforol eithafol yn y gorffennol.
Mae Matthews bellach yn dal tri record Guinness World Records, gan gynnwys rhedeg 30 marathon ar dywod mewn 30 diwrnod, a chwblhau saith triathlon pellter llawn ar saith cyfandir mewn ychydig dros 21 diwrnod.