Pennod newydd i faes chwaraeon hanesyddol Sain Helen yn Abertawe

ITV Cymru
San Helen

Mae gwaith ailddatblygu gwerth £7.6 miliwn wedi dechrau yn Sain Helen, Abertawe, gyda'r nod o sicrhau dyfodol newydd i un o leoliadau chwaraeon mwyaf hanesyddol Cymru.

Am dros 150 o flynyddoedd, mae'r safle ger y môr wedi chwarae rhan bwysig yn hanes chwaraeon Cymru. 

Yno y chwaraeodd Cymru eu gêm rygbi ryngwladol gyntaf, ac ym 1935, Clwb Rygbi Abertawe oedd y tîm cyntaf i guro’r Crysau Duon ar dir Cymru.

Mae'r gwaith adeiladu'n cynnwys stadiwm newydd ag 8,000 o seddi a chae 4G modern, gyda'r gobaith y bydd rygbi proffesiynol yn dychwelyd i ganol dinas Abertawe.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, fod y prosiect yn symud ymlaen yn gyflym a bod disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau mewn tua phum mis, yn barod ar gyfer y tymor nesaf.

Dywedodd: “Mae’r ailddatblygu wedi caniatáu i'r Gweilch ragori ar werthiant tocynnau y tymor diwethaf felly mae'r cefnogwyr wir yn cefnogi'r clwb a gall hynny ond helpu dyfodol ariannol y Gweilch yma yn Abertawe."

Mae nifer o fusnesau lleol yn croesawu'r datblygiad diweddaraf. Maen nhw'n gobeithio y bydd dychweliad cefnogwyr i'r ardal yn rhoi hwb economaidd i fusnesau sydd wedi teimlo effaith colli digwyddiadau chwaraeon mawr yn y gorffennol.

Dywedodd Connor Wright o'r Secret Bar and Kitchen eu bod yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr newydd pan fydd y stadiwm yn agor.

Bu ansicrwydd ynghylch dyfodol Sain Helen yn ystod trafodaethau am strwythur rygbi proffesiynol Cymru. Ond gyda sicrwydd dros ddyfodol y Gweilch yn y tymor byr, cafodd y prosiect y golau gwyrdd i fynd yn ei flaen.

I safle sydd wedi bod yn gartref i rai o amseroedd mwyaf cofiadwy chwaraeon Cymru, y gobaith yw y bydd y bennod newydd hon yn ychwanegu at etifeddiaeth gyfoethog Sain Helen am flynyddoedd i ddod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.