Llanelli: Cynlluniau ar gyfer marchnad newydd
Mae cynlluniau am farchnad dan do newydd yn Llanelli wedi'u rhyddhau.
Mae'r cynlluniau gan Gyngor Sir Gâr yn cynnwys 14 uned fanwerthu ar lawr gwaelod adeilad ar Stryd Vaughan yn y dre, gydag 80 stondin ar y llawr cyntaf, ac atriwm gwydr canolog uwchben.
Dywedodd Miriam Phillips, sy'n rhedeg stondin ffrwythau a llysiau yn y farchnad bresennol ger Canolfan Siopa St Elli, fod masnachwyr wedi cael cyfarfod â chynrychiolwyr y cyngor yn eu cylch wythnos diwethaf.
Dywedodd: "Maen nhw'n edrych yn iawn hyd yn hyn. Mae hi'n ddyddiau cynnar o hyd."
Dywedodd Parvez Akhtar, o Parvez Fashions, ei fod yn "gwbl yn erbyn" y cynigion ac anogodd y cyngor i uwchraddio'r farchnad bresennol a chanolbwyntio ar lenwi siopau gwag yn Llanelli.
Dywedodd y byddai'r farchnad newydd yn "fach iawn" ac yn atal pobl rhag ymweld.
"Mae angen lle arnom ni ac angen arddangos ein cynnyrch," meddai.
Dywedodd Gabor Hetesisy’n rhedeg busnes technoleg, ei fod yn optimistaidd ynghylch y cynlluniau ond yn pendroni ynghylch yr amserlenni a beth fyddai’r trefniadau rhentu newydd.
“Mae’r cynlluniau’n edrych yn dda; mae’n edrych yn addawol,” meddai.
Uchelgais
Mae’r cyngor yn gofyn am farn pobl ar y cynigion erbyn 7 Awst cyn cyflwyno cais cynllunio llawn.
Dywedodd datganiad dylunio a mynediad ynghylch y prosiect fod adeilad presennol y farchnad – gyda’i faes parcio aml-lawr uwchben – yn dyddio o’r 1970au ac yn cynnwys concrit RAAC.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi gwneud gwaith sylweddol yn 2013 i gynnal diogelwch strwythurol yr adeilad, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw parhaus.
Ychwanegodd y cyngor eu bod nhw wedi ystyried opsiynau eraill gan gynnwys dosbarthu stondinau ac unedau ledled y dref ac ailddefnyddio'r safle presennol ar ôl dymchwel y maes parcio.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod o’r cabinet dros adfywio, hamdden, diwylliant a thwristiaeth: “Mae’r cynigion hyn yn gyfle cyffrous i greu cartref newydd modern i Farchnad Llanelli ac i gryfhau canol tref Llanelli ymhellach.
“Drwy’r broses ymgynghori cyn cyflwyno cais, rydym am glywed barn trigolion, busnesau a rhanddeiliaid i helpu i lunio’r cynigion cyn cyflwyno cais cynllunio.
“Mae’n bwysig pwysleisio y bydd Marchnad Llanelli yn parhau ar agor ac yn masnachu drwy gydol y broses hon, gydag unrhyw adleoliad yn y dyfodol yn cael ei gynllunio’n ofalus i gefnogi masnachwyr a chwsmeriaid.
“Ein huchelgais yw creu cyrchfan fywiog sy’n cefnogi masnachwyr, yn denu ymwelwyr ac yn adeiladu ar hanes balch Marchnad Llanelli wrth galon y gymuned.”
