Darogan mai Plaid Cymru fydd y blaid fwyaf yn Etholiad y Senedd

rhun llinos.jpg

Mae yna ddarogan mai Plaid Cymru fydd y blaid fwyaf yn Etholiad y Senedd. 

Yn ôl y darogan diweddaraf, y nifer isaf o seddi fyddai gan Blaid Cymru ydi 41, a'r nifer uchaf fyddai 46. 

Mae hyn yn golygu mai'r disgwyl fydd mai Rhun ap Iorwerth fydd prif weinidog nesaf Cymru. 

Am y tro cyntaf, fe fydd 96 o Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol, yn hytrach na’r 60 blaenorol, ac fe fydd 16 o etholaethau yn cyhoeddi eu canlyniadau yn ystod y dydd, gyda phob un yn ethol chwe Aelod. 

Mae’r Prif Weinidog yn cael ei ddewis gan Aelodau ar ôl yr etholiad, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan bleidleiswyr.

Mae’r Senedd yn dweud bod rhaid dewis Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod i’r etholiad - erbyn  dechrau mis Mehefin 2026 - neu fe fydd yna etholiad arall.

Mae'r arbenigwyr gwleidyddol bellach yn darogan yr ystod canlyniadau canlynol ar gyfer y pleidiau eraill:

  • Reform UK – 32-34 o seddi
  • Llafur – 8-10 o seddi
  • Ceidwadwyr - 6-10 o seddi
  • Y Blaid Werdd – dwy o seddi
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 0-1 o seddi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.