Cymru Premier JD: Bae Colwyn yn herio Pen-y-bont
Dyma drosolwg o'r gemau yn y Cymru Premier JD ddydd Sadwrn.
CHWECH UCHAF
Bae Colwyn (5ed) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd dau dîm rhwystredig yn cyfarfod ar Ffordd Llanelian ddydd Sadwrn gyda’r ddau glwb wedi tangyflawni yn yr wythnosau diwethaf.
Dyw Bae Colwyn ddim ond wedi ennill un o’u chwe gêm ym mhob cystadleuaeth yn 2026 (colli 4, cyfartal 1), yn cynnwys colled siomedig yn erbyn Caernarfon yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD.
Tydi rhediad diweddar Pen-y-bont fawr gwell, gan i’r Gleision ennill dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf gan fethu a sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf.
Wedi dweud hynny, dyw Pen-y-bont ddim ond wedi colli un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, gan i bump o’r gemau hynny orffen yn gyfartal.
Wedi 12 gêm o’r tymor, doedd dim ond triphwynt yn gwahanu Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd ar frig y tabl cyn i’r clybiau gyfarfod ym mis Hydref, ond yn dilyn y golled o 6-2 yn Neuadd y Parc dyw tîm Rhys Griffiths ddim ond wedi ennill tair o’u 13 gêm gynghrair diwethaf, a’r buddugoliaethau rheiny yn dod yn erbyn y tri clwb isa’n y tabl (Llanelli, Y Bala, Y Fflint).
Cafwyd gêm i’w chofio rhwng y ddau dîm yma ym mis Tachwedd gyda Jordan Davies yn sgorio hatric i’r Gwylanod mewn buddugoliaeth o 5-4 i Fae Colwyn ar Ffordd Llanelian.
Record gynghrair ddiweddar:
Bae Colwyn: ͏❌❌➖✅❌
Pen-y-bont: ✅➖➖❌➖
Y Barri (6ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Cei Connah wedi mynd ar rediad o 17 o gemau cynghrair heb golli am y tro cyntaf erioed gan dorri 10 pwynt yn glir yn yr ail safle (ennill 11, cyfartal 6).
Does dim dwywaith ei fod yn rhediad arbennig gan y Nomadiaid, ond yr unig bryder i John Disney yw bod y tîm heb ennill yn eu pedair gêm ddiwethaf gan sicrhau pedair gêm gyfartal yn olynol.
Roedd hi’n fuddugoliaeth dda i’r Barri ddydd Sadwrn diwethaf gyda’r Dreigiau yn ennill o 2-0 oddi cartref yn erbyn Caernarfon.
Bydd Y Barri’n herio’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ar 28 Chwefror, ac felly byddai buddugoliaeth arall y penwythnos yma yn hwb mawr i’r hyder cyn y ffeinal fawr ym Mhen-y-bont.
Yn dilyn gêm ddi-sgôr rhwng y timau yma ar Barc Jenner ym mis Medi, Cei Connah oedd yn fuddugol ar Gae y Castell ym mis Ionawr gyda Callum West, Noah Edwards a Rhys Hughes yn sgorio goliau gwych i’r Nomadiaid (Cei 3-1 Barri).
Record gynghrair ddiweddar:
Y Barri: ❌✅❌❌✅ Cei Connah: ✅➖➖➖➖
CHWECH ISAF
Llansawel (9fed) v Y Bala (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:30 (Arlein)
Mi fydd hi’n gêm allweddol ar yr Hen Heol rhwng dau dîm sy’n brwydro i osgoi’r cwymp.
Mae pum pwynt yn gwahanu’r ddau glwb ar ddechrau’r penwythnos a bydd Llansawel yn ysu i agor y bwlch i wyth pwynt rhyngddyn nhw a’r ddau isaf.
Pe bai’r Bala’n fuddugol yna dim ond dau bwynt fyddai’n gwahanu’r clybiau, felly bydd tîm Steve Fisher yn benderfynol o gau’r bwlch brynhawn Sadwrn.
Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ond Hogiau’r Llyn sy’n cadw cwmni i Lanelli yn safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond un o’u 10 gêm ddiwethaf.
Dyw Llansawel ddim ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf, ond ar ôl derbyn cerdyn coch yn eu dwy gêm ddiwethaf, a methu â sgorio yn y gemau hynny, bydd angen gwell perfformiad y penwythnos hwn.
Dyw Llansawel heb golli dim un o’u tair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 1, cyfartal 2) a byddai buddugoliaeth i dîm Andy Dyer yn eu cadw’n dynn ar sodlau Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle.
Record gynghrair ddiweddar:
Llansawel: ͏✅✅✅❌➖ Y Bala: ❌✅❌➖❌
Y Fflint (10fed) v Met Caerdydd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r Fflint a Met Caerdydd yng nghanol y Chwech Isaf, a bydd y ddau dîm yn awyddus i gystadlu am y 7fed safle, a chodi’n bellach o safleoedd y cwymp.
Dyw’r Fflint ddim ond wedi colli dwy o’u 12 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, a bydd tîm Lee Fowler yn wynebu Dinas Bangor 1876 o’r drydedd haen yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru fis nesaf, gyda’r Sidanwyr yn breuddwydio am godi’r cwpan am y tro cyntaf ers 1954.
Ers curo’r Seintiau Newydd ddwywaith ym mis Tachwedd, dyw Met Caerdydd ddim ond wedi ennill unwaith ers hynny (vs Llanelli), ac mae’r clwb bellach ar rediad o wyth gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 5, colli 3).
Mewn ymdrech i ddod â’r rhediad i ben, mae Met Caerdydd wedi arwyddo cyn-gapten Casnewydd, James Clarke yr wythnos yma, a bydd yr amddiffynnwr 36 mlwydd oed yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb y penwythnos yma.
Enillodd Y Fflint o 4-2 yn eu gêm gartref yn erbyn Met Caerdydd ym mis Awst, ond fe gafodd y myfyrwyr ddial ym mis Hydref drwy ennill o 4-1 ar Gampws Cyncoed.
Record gynghrair ddiweddar:
Y Fflint: ✅❌✅✅➖ Met Caerdydd: ͏➖➖❌➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.