Crafanc-y-frân: Dod o hyd i un o blanhigion mwyaf prin Cymru mewn lleoliad newydd
Mae un o blanhigion mwyaf prin Cymru sydd ond yn ymddangos yn y gaeaf wedi ei ddarganfod ar Benrhyn Gŵyr gan ffermwraig sy'n byw a gweithio'n lleol.
Cafodd y grafanc-y-frân dridarn ei darganfod gan Emma Douglas tra roedd hi allan yn marchogaeth.
Cafodd presenoldeb y planhigyn ar y safle ei gadarnhau yn ddiweddarach gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r rhywogaeth, sy’n perthyn i’r blodyn ymenyn, yn byw ar ymylon pyllau a phantiau yn y gaeaf, ac yn cynhyrchu blodau mân gwyn rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.
Dim ond mewn dyrnaid o safleoedd y mae i'w weld yng Nghymru, gan gynnwys Gŵyr, Sir Benfro a Sir Gaernarfon.
Mae'r planhigyn anghyffredin yn dibynnu ar ffynonellau dŵr glân iawn i ffynnu ac mae ei hadau’n cael eu gwasgaru drwy gael eu cario ar garnau danifeiliaid sy'n pori.
Ond o ganlyniad i newidiadau modern i borfeydd da byw a lefelau ansawdd dŵr is, mae'r rhywogaeth wedi gweld dirywiad mawr dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Ali Probert, Rheolwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sy'n gofalu am ddau o'r safleoedd sy'n weddill ar Benrhyn Gŵyr sydd eisoes yn cynnal poblogaethau o'r rhywogaeth yma:
"Rydym wrth ein bodd yn gwneud ein rhan i ddiogelu dyfodol y grafanc-y-frân dridarn ar Benrhyn Gŵyr.
“Mae darganfod is-safle newydd yn dangos yn union pa mor werthfawr yw’r gwaith arolygu cydweithredol hwn, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gynnal gwaith monitro’n flynyddol yn y safleoedd yr ydym yn eu rheoli.
“Mae gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol yn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r rhywogaeth brin hon adfer a ffynnu”
Natur am Byth
Mae’r grafanc-y-frân dridarn yn rhywogaeth darged Natur am Byth, rhaglen sydd wedi ymrwymo i ddiogelu ac adfer 67 o fflora a ffawna Cymru sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf.
Mae Bae Abertawe – Arfordir, Tir Comin a Chymunedau, sef prosiect o fewn y rhaglen, wedi bod yn monitro'r rhywogaeth ac yn rheoli ei chynefinoedd ar Benrhyn Gŵyr gyda Plantlife Cymru a Buglife Cymru ers i'r rhaglenni ddechrau yn haf 2023.
Meddai Steve Dixon, Swyddog Cyflawni Prosiectau yn Buglife Cymru:
“Mae darganfod is-safle newydd fel hwn nid yn unig yn ganfyddiad cyffrous o ran bioamrywiaeth yr ardal, ond hefyd yn enghraifft fyw o sut mae ein gwaith o reoli cynefin yn helpu’r rhywogaeth i adfer.
“Mae prosiect Bae Abertawe yn cwmpasu 13 o rywogaethau targed a phob un ohonynt mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru ac mae angen rhywbeth gwahanol ar bob un i sicrhau ei fod yn goroesi.
“Ond diolch i ymdrechion diflino ac arbenigedd ein swyddogion a’n partneriaid, rydym yn gallu diogelu’r trysorau prin Cymreig hyn a sicrhau eu bod nhw yma nawr ac i’r dyfodol.”
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
