'Canlyniad positif a gwych': Cywiro enw tafarn ym Môn wedi cwynion am gamdreiglo
Fe fydd enw tafarn ym Môn yn cael ei gywiro wedi cwynion gan rai trigolion lleol am wall camdreiglo.
Mae'r dafarn yng nghanol pentref Llanfairpwll yn cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd, wedi i'r un oedd yno gynt, Tafarn Tŷ Gwyn, gau ei drysau.
Ond mae rhai o'r trigolion wedi bod yn anhapus wrth basio'r dafarn yn ddiweddar, gan weld arwydd mawr gyda'r enw newydd, "Tafarn y Gorsaf."
Yr enw gramadegol gywir fyddai "Tafarn yr Orsaf" a hynny am bod enwau benywaidd unigol fel 'Gorsaf' yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod (y/'r).
Tro pedol?
Mae Andrew Kells yn byw yn agos iawn at y dafarn, ac yn gweld yr arwydd yn ddyddiol.
Roedd Mr Kells wedi cysylltu â'r cwmni i nodi fod camgymeriad iaith ar yr arwydd, ond fe gafodd wybod yn wreiddiol na fyddai'r enw yn newid.
"Slap yn y gwynab braidd. Dim i ddechra, o'n i'n meddwl 'ocê, camgymeriad, ma' pawb yn neud camgymeriadau,' ond y ffaith bo' nhw wedi gwrando arna' fi a 'di penderfynu 'di o'm ots a 'di jyst cario 'mlaen efo'r enw, penderfynu bod o'n iawn, hynna oedd y peth mwya o'dd yn bothran fi," meddai wrth Newyddion S4C.
"Wedi i fi gael ymateb gan y cwmni bo' nhw wedi trafod y peth a bo' nhw wedi penderfynu fod o ddigon da, nes i basically bwyntio allan faint o frustrated o'n i efo'r peth a peidio gadael o fynd."
Mae'r Athro Sara Elin Roberts yn byw yn yr ardal hefyd.
"Mae o'n eironig iawn i fi, un o'r pethau sydd wedi bod yn fy nghorddi i fwyaf ydi bod y dafarn reit gyferbyn â chartref neu dŷ John Morris Jones, gramadegwr enwocaf Cymru," meddai wrth Newyddion S4C.
"I roi camdreiglad mor fawr, achos ma'r arwydd yn anferth, dydy o ddim yn ddoniol o gwbl, mae o'n dipyn o sarhad mewn gwirionedd."
Mae'r cwmni sy'n berchen ar y dafarn, Admiral Taverns, wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C y bydd yr arwyddion yn cael eu newid, ac mai "Tafarn yr Orsaf" fydd ar yr arwyddion hyn erbyn i'r dafarn newydd agor ei drysau ar 12 Medi.
Dywedodd llefarydd ar ran Admiral Taverns eu bod yn "falch ofnadwy o'n tafarndai Cymreig o fewn ein hystâd, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r cymunedau lleol rydym yn eu gwasanaethu."
Ychwanegodd: "Rydym yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y camgymeriad wrth ail-enwi Tafarn yr Orsaf. Ar ddiwedd y dydd, pobl ydyn ni, ac ar yr achlysur hwn, ni chawsom ni bethau’n iawn. Rydym yn cydnabod hyn ac yn ymddiheuro am y rhwystredigaeth a achoswyd yn y gymuned leol.
"Ers hyn, rydym wedi ymgynghori ag arbenigwyr ar yr iaith Gymraeg ac wedi gwirio yn drylwyr i sicrhau bod enw newydd y dafarn yn gywir. Hoffem ddiolch i’r rhai yn y gymuned a’n helpodd i adnabod a chywiro’r gwall."
'Hwb mawr i'r pentref'
Dywedodd Mr Kells fod y canlyniad yn un "positif a gwych."
"Dydd Mercher, ges i ymateb gan y cwmni yn deud bod nhw yn newid yr arwyddion i'r rhei cywir, a nes i ateb yn dweud 'newyddion gwych' a bo' fi'n edrych ymlaen at eu cefnogi nhw," meddai.
"Mae o'n hwb mawr i'r pentref, mae o'n edrych yn grêt a ma' nhw wedi gwario lot arna fo, dwi'n gwbod hynny. Ma'n neis ac ma'n hwb i'r pentref."
Ychwanegodd yr Athro Roberts ei bod hi'n amlwg wrth gael trafodaethau â'r cwmni eu bod yn awyddus i gefnogi'r Gymraeg.
"Oeddan nhw'n deud eu bod nhw'n awyddus iawn i gefnogi'r Gymraeg a bod hyn yn beth pwysig felly o'dd hynny yn beth da, a wedyn nes i ddeud os felly, ma' rhaid cael yr enw yn iawn," meddai.
"Os ydy rywun yn dangos y geiriau unigol, ma'r geiriau unigol yn gywir, ond ma'r treiglad yn fater arall a dwi'n meddwl mai diffyg dealltwriaeth o ramadeg oedd hyn.
"Dwi'n meddwl bod y cwmni yn gefnogol i'r Gymraeg. Dwi'n falch iawn eu bod nhw wedi rhoi enw Cymraeg ar y dafarn, a does 'na ddim enw Saesneg, dydyn nhw ddim wedi ei galw hi yn 'Tafarn yr Orsaf' a wedyn mewn bracedi 'The Station Inn'.
"Ma' 'na gamgymeriadau wedi digwydd ond ma' nhw hefyd wedi cytuno rŵan i newid y peth, a ma' nhw yn awyddus i gefnogi. Dwi'n awyddus i weld hon yn mynd yn dafarn Gymraeg draddodiadol, ella fedrwn nhw gael gweithgareddau Cymraeg, fysa hynny yn wych.
Mae rhai trigolion ar y cyfryngau cymdeithasol wedi amddiffyn yr enw gwreiddiol, gan ddweud nad oes "angen bod yn negyddol", bod pobl yn "gorfeddwl y mater" a fod y dafarn yn "llawer taclusach bellach".
'Dim derbyn' camsillafu
Ond yn ôl yr Athro Roberts, ni fyddai hyn yn digwydd yn y Saesneg.
"Dydy o ddim yn ddigonol, dydy'r Gymraeg ddim yn rwbath sydd yn gwneud y tro, ddylai'r Gymraeg ddim bod felly. Os ydy'r Gymraeg i gael yr un statws â'r Saesneg, dydy jyst 'mi neith hyn' ddim yn ddigon da," meddai.
"Yn eironig, nid dyna oedd agwedd y cwmni, mi oeddan nhw'n trio eu gorau, ond fysa 'na ddim un tafarn yn y Saesneg efo enw gwallus, camsillafu yn cael ei dderbyn.
"Nid pedantig ydi hyn, ma' treigladau yn hollbwysig yn y Gymraeg a dyma beth sy'n gwneud y Gymraeg yn Gymraeg. Mae'n anodd iawn i siaradwr Cymraeg ddeud y geiriau fel ma' nhw, ond hefyd, tasa nhw'n gadael yr enw fel mae o, a dydyn nhw ddim yn gwneud, mae o'n mynd i godi cwestiynau i bobl sy'n dysgu Cymraeg, ma' 'na lawer o bobl yn rhoi o'u hamser i ddysgu'r iaith, a ma' cael arwydd fel 'na sydd yn anghywir, 'di o'n helpu dim ar neb.
Ychwanegodd Mr Kells: "Dwi'n meddwl os ti'n gadal i betha bach fynd, ma' nhw'n gallu cael snowball effect nes bod o'n mynd out of control mewn ffordd.
"Dwi jyst yn falch bo' nhw wedi cytuno bod o'n anghywir, cytuno i newid o. Ma' nhw wedi gwario lot o bres, ma' nhw'n dod â gwaith i'r pentra' ac ma'n mynd i edrych yn grêt felly ma' pawb yn hapus.
"Ma' tafarndai dros Brydain yn stryglo felly ma'n bwysig bo' ni'n cefnogi."