Cwest: Beiciwr modur a fu farw wedi gwrthdrawiad ym Môn yn gweithio i Heddlu'r Gogledd

Burwen ym Mon

Mae agoriad cwest wedi clywed fod beiciwr modur o Fôn a fu farw wedi gwrthdrawiad â char ar yr ynys yn gweithio i Heddlu Gogledd Cymru.

Bu farw Mark Handford, 58 oed, o Langoed, a oedd yn gasglwr tystiolaeth, ar 27 Mehefin ar yr A5025 ym Murwen ger Amlwch.

Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd uwch grwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Mr Handford wedi dioddef nifer o anafiadau.

Gohiriodd y cwest er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.