Cwest: Bachgen 17 oed wedi boddi mewn llyn ger Castell y Waun
Mae cwest wedi clywed bod bachgen 17 oed ddiflannodd ger Castell y Waun, Sir Wrecsam wedi boddi mewn llyn.
Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun ddydd Llun bod Ashamekh Bortata, a gafodd ei eni yn Libya ac yn byw yn Lerpwl wedi marw mewn llyn ger y castell ar 7 Ebrill.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan y gwasanaethau brys wedi iddo fe a'i ffrindiau ymweld â'r ardal ger y castell.
Dywedodd y crwner John Gittins bod y gwasanaethau brys wedi derbyn galwad 999 gan ffrind i Ashamekh Bortata oedd yn dweud bod y bachgen 17 oed yn boddi yn y llyn.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu fe wnaethon nhw gyfarfod â nifer o bobl ifanc oedd wedi teithio o Lerpwl ac yn cerdded ar gyrion y castell.
Eglurodd y crwner yn y cwest bod y ffrindiau wedi dod o hyd i ardal o goetir a llyn a bod Ashamekh wedi mynd mewn i'r dŵr.
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn rhan o'r ymgyrch i ddod o hyd iddo.
Methodd y gwasanaethau brys â dod o hyd i Ashamekh ar y diwrnod cyntaf ac fe wnaeth y chwilio barhau ar 8 Ebrill, pan ddaeth swyddogion o hyd i'w gorff.
Dywedodd y crwner fod patholegydd wedi nodi achos dros dro y farwolaeth, sef boddi.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach i'r farwolaeth.