Croesawu grymoedd newydd i fynd i'r afael ag ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid
Rhybudd: Gallai'r manylion a'r delweddau yn yr erthygl hon beri gofid.
Mae ffermwraig o Geredigion wedi sôn am y profiad erchyll o weld ŵyn bach wedi eu rhwygo yn ddarnau yn dilyn ymosodiad gan gi y llynedd.
Yn ôl Anwen Hughes o Lanarth ger Aberaeron, mae ffermwyr yn "dathlu" bod yr heddlu yn cael mwy o rymoedd yr wythnos hon i fynd i'r afael â chŵn sydd yn ymosod ar dda byw.
Fe fydd y pwerau, sydd yn dod i rym ddydd Mercher yng Nghymru a Lloegr, yn diweddaru Deddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953.
Fe fydd swyddogion yn medru meddiannu cŵn, codi costau am eu cadw mewn cwb a chymryd samplau DNA o anifeiliaid sydd yn cael eu hamau o ymosod ar stoc.
Fe fydd modd rhoi dirwy amhenodol hefyd i berchnogion, yn hytrach na'r uchafswm presennol o £1,000.
Yn ôl ystadegau Heddlu Dyfed Powys, roedd yna o leia 60 o ymosodiadau gan gŵn ar stoc yn 2025. Mae ystadegau Heddlu'r Gogledd yn dangos bod yna 90 o ymosodiadau tebyg wedi bod yn ardal y llu yn ystod yr un flwyddyn.
Roedd yna golledion stoc gwerth £2m ar draws y Deyrnas Unedig y llynedd yn dilyn ymosodiadau gan gŵn, yn ôl undeb yr NFU.
'Dim geiriau'
Cafodd Anwen Hughes, Is-lywydd rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, y profiad o ddarganfod tri oen y llynedd oedd wedi cael eu rheibio gan gi.
"Roedden ni wedi cael hwyl reit dda ar yr wyna ac mi ddes i lawr un noswaith a ffindio tri oen wedi cael eu lladd gan gi.
"Mae yna lwybr cyhoeddus i gael o dan y ffarm. Roedd pobl lleol yn dweud bod yna gŵn oddi ar y tennyn yn gyson. Ni'n gwybod mai pobl ifanc oedd gyda'r ci oedd yn rhydd, ond da ni ddim wedi cael hyd i'r plant yna oedd yn berchen ar y ci."
Dywedodd Anwen ei bod hi wedi colli defaid yn y gorffenol yn sgil ymosodiadau gan gŵn, a bod yr effaith seicolegol ar ffermwyr yn sylweddol.
"Does dim geiriau i ddisgrifio fe. Ystyriwch beth mae cŵn yn medru gwneud. Meddyliwch sut byddech chi yn hoffi, petasech chi yn mynd i'r cae, a gweld oen neu ddefaid wedi cael eu rhwygo ar agor," ychwanegodd.
"Roedd oen wedi cael ei ladd a roeddwn i yn gallu gweld y calon yn curo tu fewn. Petasech chi fel perchennog ci, yn gweld hwnna, d'wi'n meddwl basech chi yn meddwl dwywaith am adael ci oddi ar y tennyn."
'Mwy o addysg'
Mae'r Arolygydd Matthew Howells yn aelod o'r tîm troseddau cefn gwlad yn Heddlu Dyfed-Powys.
Mae'n dweud ei bod hi wedi cymryd "sawl blwyddyn" i gyflwyno'r newidiadau diolch i ymdrechion Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor.
"Mae gyda ni'r pŵer i feddiannu ci sydd wedi bod yn cwrso defaid neu wartheg. Mae pŵer gyda ni i gael gwarant i fynd mewn i dŷ rhywun sydd yn berchen y ci er mwyn cymryd sampl DNA neu mynd â'r ci o'r cyfeiriad.
"Mae pwerau gyda'r llys hefyd i roi unlimited fine. Mae hynny yn mynd i fod yn deterrent mawr gobeithio 'ny."
Dywedodd ei fod yn synnu ambell waith at agweddau perchnogion cŵn.
"Mae pobl yn meddwl dyw Rover bach nhw ddim i wneud dim byd. Chwarae mae'r ci yn gwneud ond yn anffodus, mae'n gallu hala defaid i redeg mewn i afonydd, maen nhw yn mogu ac yn y blaen.
"Mae'n rhaid bod mwy o addysg a deterrent. Ni hefyd yn gallu cynnig cwrs 'ymddygiad cyfrifol i berchnogion cŵn' os nad yw unigolion yn cael eu herlyn."
Fe fydd y pwerau newydd yn ymestyn y ddeddf i gynnwys ymosodiadau ar ffyrdd a llwybrau, ac yn cynnwys anifeiliaid fel lamas ac alpacas am y tro cyntaf.
Strategaeth
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio strategaeth newydd i daclo troseddu gwledig gyda'r nod o "gryfhau'r berthynas" yng nghefn gwlad.
"Mae'n dangos bod ni yn cymryd troseddau yng nghefn gwlad o ddifrif. Ni eisiau ceisio lleihau troseddau yng nghefn gwlad a heddlu sydd a'r sgiliau i ddelio gyda hynny. Ni eisiau dangos i'r ffermwyr bod ni yna."
Yn ôl Anwen Hughes mae'r pwerau newydd i daclo ymosodiadau gan gŵn i'w croesawu.
"Ni fel ffermwyr yn dathlu. Mae e wedi bod 10 mlynedd o ni'n brwydro gyda San Steffan i gael hyn drwyddo. Mae e fel golau ar ddiwedd y twnnel."
Prif lun: Anwen Hughes a'r Arolygydd Matthew Howells