Coron Eisteddfod y Garreg Las i Martin Huws am gasgliad sy'n 'trafod un o'r themâu mwyaf heriol posibl'
Coron Eisteddfod y Garreg Las i Martin Huws am gasgliad sy'n 'trafod un o'r themâu mwyaf heriol posibl'
Gall cynnwys y gerdd fuddugol eleni fod yn anodd i rai ei darllen.
Martin Huws yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni am gasgliad "ysgytiol" sy'n "trafod un o'r themâu mwyaf heriol posibl" sef cam-drin ac ymyrraeth.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Martin Huws yn byw yn Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf, ers mwy na 30 mlynedd. Treuliodd ran helaeth o’i yrfa’n y maes newyddiadurol, gan weithio i Golwg, y Western Mail, ac ITV Cymru, cyn ei benodi a threulio blynyddoedd fel uwch-newyddiadurwr yn y BBC.
Dywedodd y beirniad fod wyth casgliad yn deilwng o'r Goron eleni, o'r 41 a gystadlodd.
Fe gyflwynir y Goron am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y testun ‘Adnabod’. Y beirniaid eleni yw Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd a Nia Powell.
Wrth annerch o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Damian Walford Davies, “Daeth un-a-deugain o gynigion – yn gasgliadau a phryddestau – i law.
"Nid yw hynny o anghenraid yn dynodi ffyniant a iechyd barddoniaeth gyfoes. Ond gellir dweud yn ddiffuant fod i’r gystadleuaeth eleni gryn gyfoeth – a hynny yn syniadol ac o ran crefft.
"Roedd hyn, yn ei dro, yn cymell asesiadau cysáct a phenderfyniadau anodd i Nia, Gwynfor a mi o ran categoreiddio’r beirdd yn uchelfannau’r gystadleuaeth.
“Da oedd gweld rhychwant o ymdriniaethau â’r teitl gosod – ‘Adnabod’ – gyda’r rhai mwyaf soffistigedig yn ymwneud â’r thema mewn ffyrdd cyfoes, cynnil annuniogyrchol, ac annogmatig, ac yn trin testunoldeb fel rhywbeth i’w genhedlu yn hytrach na’i bastynu’n anymwybodol.”
Wrth drafod gwaith Fan[-]go, dywed ei fod yn “Gasgliad ysgytiol o ran thema, ac o ran crefft a chreadigrwydd beiddgar yr ymdriniaeth. Trafodir un o’r themâu mwyaf heriol posibl – thema ddirdynnol ac oesol, sef cam-drin ac ymyrraeth.
‘Mor agos at ei gilydd y deuent . . .’ – aralleiriaf Waldo Williams i gofnodi pa mor gystadleuol oedd y safon ar y brig eleni. Ond ni ellir wrth dair coron. Ac nid oedd amheuaeth o fath yn y byd eleni nad oedd teilyngdod.
“Yr hyn a’n harweiniondd ni at Fan[-]go wedi trafodaeth bellach oedd y cytundeb fod gan ei hawen feiddgar a’i hymdriniaeth ddigyfaddawd â thema affwysol (ac affwysol newydd yn ein barddoniaeth) rym na ellid dianc rhagddo, ac nad oedd yn bosibl ei ddiystyru.
"Nid oedd y penderfyniad terfynol i bennu Fan[-]go yn fardd coronog Eisteddfod y Garreg Las yn teimlo fel cyfaddawd.
“Ydy – mae’n heriol ac yn peri anesmwythyd a hyd yn oed aflonyddwch. Fan[-]go oedd y dewis anodd, y dewis heriol.
"Coroner Fang[-]o yn llwyr haeddiannol – nid am ei bod yn hawdd i’w mwynhau neu’n rhwydd i’w phrosesu, ond oherwydd ei bod hi’n ysgytwol angenrheidiol, yn mynnu ein hamser – yn hawlio ac yn ad-dalu ein hymdrech.”
Y Prifardd
Roedd Martin Huws yn gadeirydd cangen Undeb y Newyddiadurwyr ac yn swyddog iechyd a diogelwch lleyg Cymru gyfan. Mae wedi ymddeol ers deng mlynedd.
Mae wedi cyhoeddi dwy nofel, dwy gyfrol o straeon byrion, cyfrol o farddoniaeth a llyfryn am hanes Caerdydd. Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a’r Cyffiniau 2007 roedd ei nofel, Mae Heddwch yn Brifo yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.
Yn 2016 enillodd Gadair Gŵyl Aberteifi a Choron Eisteddfod Llambed ac yn 2017 fe ddaeth ei gyfrol o straeon byrion, Yr Awyr yn Troi’n Inc, yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.
Yn 2023 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd enillodd y gystadleuaeth cyfansoddi Dwy Fonolog Gyferbyniol ac yn 2024 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf enillodd y gystadleuaeth cyfansoddi Sgript Gomedi. Ym mis Mai eleni enillodd Goron Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
Tirwedd
Cyflwynir y Goron gan deulu’r Parch WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal, a rhoddir y wobr ariannol o £750 gan bapur bro Y Cardi Bach, er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a’r Parchedig Euros Wyn Jones. Cefnogir y seremoni gan Gymdeithas Amaethyddol Sir Benfro.
Cynlluniwyd a chrëwyd y Goron gan Elen a Dylan Bowen, y tîm gŵr a gwraig y tu ôl i Bowen Jewellery, yn eu gweithdy yng Nghastell Newydd Emlyn.
Cafodd gwneuthurwyr y Goron eleni eu hysbrydoli gan yr hen ddihareb amaethyddol, ‘Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug’, sy’n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau.
Gyda chymaint o dirweddau amrywiol o fewn dalgylch yr Eisteddfod, o’r traethau godidog a’r caeau ffrwythlon, i’r ucheldir hyfryd a gwydnwch mynyddoedd y Preseli, roedd Elen a Dylan yn awyddus iawn i’r Goron adlewyrchu’r cyfan sy’n arbennig am ardal y Garreg Las, gan gyfleu’r tirwedd bryniog yng nghynllun y Goron.
Mae'r Nod Cyfrin wedi'i greu o ddarnau o garreg las. Nid yw'r garreg yn berl fel diemwnt sydd â sglein naturiol iddi, ond fe gafodd y gwaith o dorri'r garreg ei wneud gan gwmni arbenigol, ac mae'r garreg yn sgleinio yn ei lle yn y Goron.
Cafodd y brethyn sydd yng nghap y Goron ei greu’n arbennig ar ei chyfer gan wehyddwr yn Llanymddyfri, gan ddefnyddio lliwiau'r tirwedd - melyn, piws, gwyrdd a brown - yn ddeheuig iawn. Mae bwa ar draws y Goron, ac mae modd gweld y brethyn drwyddo.
Mae’r llinell aur sy’n rhedeg ar draws blaen y Goron yn adlewyrchu’r Llwybr Aur sy’n rhedeg drwy’r Preselau, y llwybr a oedd yn cael ei ddefnyddio gan deithwyr a chludwyr nwyddau rhwng Iwerddon a Llundain ers talwm.
Dyma’r tro cyntaf i Elen a Dylan gynllunio a chreu Coron ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae’r ddau yn credu’i fod yn anrhydedd fawr, yn enwedig gan mai dim ond ers tair blynedd maen nhw wedi bod yn rhedeg eu cwmni. Mae gan y ddau eu rôl penodol yn y gwaith o gynllunio a chreu gemwaith, gydag Elen yn cyfuno technegau gof aur traddodiadol gyda chelf gyfoes, a Dylan yn gofalu am ochr dechnegol eu gwaith a sicrhau bod pob darn yn strwythurol gadarn.
Bydd modd prynu’r ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd tan 8 Awst.
Os yw rhai o'r pynciau a drafodir yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael yma.
