Conwy: Carcharu dyn am ymosod yn rhywiol ar ddynes oedd yn cerdded ei chi
Mae dyn 25 oed wedi’i garcharu ar ôl i reithgor ei ddyfarnu’n euog o ymosodiad rhyw ar ddynes a oedd yn cerdded ei chi ym Mae Colwyn.
Roedd Tyler Evans, o Glyn Avenue, Bae Colwyn, wedi dilyn dynes a cheisio ei llusgo tuag at lwyni ym Mharc Eirias ar nos Lun 6 Hydref y llynedd, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug.
Dywedodd y Barnwr Paul Lewis fod y ddynes wedi sgrechian a’i chi wedi cyfarth, gan achosi i Evans, oedd yn gweithio i siop tecawê pitsa, ei rhyddhau.
Fe ddywedodd Mr Lewis ei fod yn achos “pryderus”, gan ychwanegu bod yr ymosodiad yn dangos “elfennau o ymddygiad rheibus (predatory)”.
Cafwyd Evans yn euog o ymosod yn rhywiol a dinoethi (exposure).
Mewn gwrandawiad ddydd Llun, cafodd ddedfryd o 38 mis yn y carchar. Bydd yn rhaid iddo hefyd gofrestru fel troseddwr rhyw.
Yn amddiffyn Evans, fe wnaeth Dafydd Roberts annog y barnwr i ystyried dedfryd wedi’i ohrio.
“Mae’n parhau i wadu’r cyhuddiad,” meddai.
“Beth bynnag ddigwyddodd ar y noson honno ym Mharc Eirias, roedd yn ymddygiad a oedd yn gwbl allan o’r arfer i Tyler Evans.”