Chwyddiant yn codi yn sgil rhyfel y Dwyrain Canol

Gorsaf Petrol

Mae chwyddiant wedi codi ym Mhrydain i 3.3% ym mis Mawrth yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

3% oedd y gyfradd ym mis Chwefror. 

Mae'r codiad wedi digwydd o achos cynnydd mewn prisiau tannwydd yn sgil y rhyfel yn y Dwyrain Canol. 

Yn ôl prif economegydd yr ONS, Grant Fitzner dyma oedd y cynnydd mwyaf mewn prisiau tannwydd ers tair blynedd. 

Fe wnaeth prisiau bwyd godi ym mis Mawrth hefyd ond dim ond 0.3%. Er hynny mae Grant Fitzner wedi dweud wrth BBC Radio 4 Today y gallai bwyd ddod yn ddrytach i'w brynu yn y dyfodol. 

"Os bydd prisiau ynni uwch yn cael eu cynnal am beth amser, bydd hynny'n cael ei adlewyrchu mewn prisiau bwyd uwch," meddai.

Mae prisiau teithiau awyr hefyd wedi codi. 

Mae'r Canghellor, Rachel Reeves wedi ymateb i'r ffigyrau. Dywedodd mai rhyfel America ac Iran sydd wedi achosi'r codiad mewn chwyddiant. 

"Nid ein rhyfel ni yw hwn ond mae'n codi biliau i deuluoedd a busnesau." 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.