Chwiorydd wedi boddi yn ddamweiniol mewn pyllau dŵr ger yr Wyddfa

Hajra Zahid a Haleema Zahid

Bu farw dwy chwaer drwy foddi ar ddamwain ar ôl iddyn nhw badlo yn gwisgo eu dillad yn Eryri, clywodd cwest ddydd Mercher.

Cafodd Hajra Zahid, 29 oed, mam briod i ddau o blant, a’i chwaer Haleema, 25 oed, eu tynnu o byllau ar Lwybr Watkin sy’n arwain at gopa’r Wyddfa.

Roedd y ddwy wedi ymweld â’r safle nofio gwyllt oedd wedi dod yn boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol gyda thri ffrind gwrywaidd ar 11 Mehefin.

Fe wnaeth y grŵp o bump, oedd i gyd yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caer, wahanu am resymau preifatrwydd a chrefyddol.

Roedd y chwiorydd – nad oedd yn gallu nofio – wedi mynd ymhellach i fyny Afon Cwm Llan.

Galwodd y dynion ar y chwiorydd, oedd yn dod o Maltby, Rotherham, yn ddiweddarach a dod o hyd i’w hesgidiau a’u heiddo personol ar ochr y dŵr.

Yn ddiweddarach, fe ddaethon nhw o hyd i Hajra yn arnofio wyneb i lawr yn ei ffrog goch.

Clywodd Llys y Crwner yng Nghaernarfon eu bod wedi llwyddo i dynnu Hajra, oedd yn anymwybodol, at lan yr afon, ond nad oedden nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i Haleema.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac yn ddiweddarach fe gafodd Haleema – oedd yn gwisgo jîns glas a chrys du – ei thynnu o ddŵr dwfn ger rhaeadr gan ddau aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis.

Cyhoeddwyd bod y ddwy wedi marw yn y fan a’r lle.

‘Damweiniol’

Dywedodd y Ditectif Gwntsabl Gutun Lake o Heddlu Gogledd Cymru wrth y cwest fod y grŵp o bump, gan gynnwys Luqman Zeb, Jawad Iqbal a Hassan Khan – i gyd o Lerpwl – wedi ymweld â Llandudno yn gynharach.

Fe aethon nhw wedyn i Barc Cenedlaethol Eryri a pharcio cyn cerdded tua 40 munud i gyrraedd y nant.

Dywedodd ei fod yn “ddiwrnod poeth iawn” gyda thymheredd yn codi dros 30°C, a bod y pyllau yn rhai “hynod o oer”.

Dywedodd Crwner Cynorthwyol Gogledd-orllewin Cymru, Sarah Riley, ei bod wedi dod i’r casgliad fod y chwiorydd wedi bwriadu padlo yn y dŵr.

Meddai: “O ystyried y dystiolaeth nad oedd y naill na’r llall yn gallu nofio, a’u bod nhw yn gwisgo eu dillad, rwy’n fodlon nad aeth yr un chwaer i nofio na mynd i rannau o’r pwll a fyddai’n golygu eu bod allan o’u dyfnder yn y dŵr.”

Dywedodd mai un posibilrwydd oedd bod un neu’r ddwy wedi syrthio oddi ar graig “eithriadol o lithrig” ar ymyl y pyllau.

'Hynod drasig'

Clywodd y cwest fod y ddau achubwr mynydd a aeth i’r dŵr hefyd wedi llithro ar yr un graig.

Wrth ddod i’r casgliad mai marwolaethau damweiniol oedd y rhain, dywedodd eu bod nhw ill dau wedi boddi ar ôl methu â nofio i ddiogelwch.

 “Rwy’n estyn fy nghydymdeimlad diffuant i’w ffrindiau a’u teulu,” meddai.

“Mae hwn yn achos hynod drasig ac mae fy meddyliau’n aros gyda nhw.”

Dywedodd Ms Riley hefyd ei bod wedi “annog pobl i fod yn ofalus” ynglŷn â phyllau o’r fath.

Roedd y chwiorydd yn wreiddiol o Rawalpindi ym Mhacistan, ac fe ddaethon nhw i’r DU ym mis Ionawr 2025 i astudio gradd Meistr mewn busnes rhyngwladol.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y cwest, dywedodd gŵr Hajra, Hessham Minhas, ei bod hi “bob amser yn rhoi ei hun wrth galon bywyd y teulu”.

Meddai: “Roedd hi’n ddynes benderfynol ac uchelgeisiol oedd yn credu yng ngrym addysg a datblygiad personol, gyda breuddwyd o adeiladu dyfodol gwell iddi hi ei hun a’i theulu.

“Mae ei chof yn parhau i fyw ym mywydau’r rhai y bu’n eu cyffwrdd ac yn y teulu a adawodd ar ei hôl.”

Mewn datganiad arall gan Raja Azem, ffrind i Haleema, meddai: “Bydd Haleema yn aros yn ein calonnau a’n gweddïau fel merch, chwaer a modryb annwyl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.