Y chwilio'n parhau yng nghyn-gartref Andrew Mountbatten-Windsor

Andrew Mountbatten-Windsor

Mae'r chwilio'n parhau ddydd Sadwrn yng nghyn-gartref Andrew Mountbatten-Windsor yn Berkshire wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu bod yn ystyried ei dynnu oddi ar restr olyniaeth y teulu brenhinol, wedi i ymchwiliad yr heddlu ddod i ben.  

Daw hynny wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus fore Iau, cyn cael ei ryddhau y noson honno wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Mae Andrew Mountbatten-Windsor wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol.

Er iddo golli ei deitl brenhinol y llynedd, mae cyn-Ddug Caerefrog yn dal i fod yn wythfed ar restr olyniaeth y teulu brenhinol, a byddai angen Deddf Seneddol er mwyn ei atal rhag dod yn frenin.  

Y gred yw bod Llywodraeth Syr Keir Starmer yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth o'r fath pan fydd ymchwiliad yr heddlu wedi dod i ben.

Byddai angen i wledydd eraill sy'n rhannu'r frenhiniaeth gytuno ar newidiadau o'r fath, yn cynnwys Awstralia, Canada a Jamaica.

Y penwythnos hwn, bydd aelodau'r teulu brenhinol yn ceisio ymgymryd â'u dyletswyddau fel arfer, gyda disgwyl i'r Tywysog William a'r Dywysoges Catherine ymddangos yn gyhoeddus.  

Treuliodd Andrew, brawd y Brenin, 11 awr yn y ddalfa ddydd Iau ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 66 oed, cyn cael ei ryddhau o dan ymchwiliad, wedi honiadau iddo rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein, tra roedd yn gennad masnach y Deyrnas Unedig.

Mae cartref y cyn-dywysog yn Sandringham, Norfolk wedi cael ei archwilio.    

Roedd plismyn ddydd Gwener yn dal i archwilio cyn-gartref Andrew Mountbatten-Windsor yn Windsor, Berkshire.

Mae 30 o ystafelloedd yn y plasty.  

Mae e wedi gwadu yn y gorffennol iddo wneud unrhywbeth o'i le mewn cyswllt â'i berthynas â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein, ond dyw e ddim wedi ymateb yn uniongyrchol i'r honiadau diweddaraf.  

Dywedodd y Brenin Charles III ddydd Iau bod "yn rhaid caniatáu i'r broses gyfreithiol fynd rhagddi."

Mewn datganiad, nododd: “Rwy'n pryderu yn fawr o gael gwybod y newyddion am Andrew Mountbatten-Windsor a'r amheuaeth ei fod wedi camymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

“Fe fydd y mater hwn yn cael ei ymchwilio gan yr awdurdodau priodol mewn modd llawn, deg a phriodol.

“Mae ganddyn nhw ein cefnogaeth a’n cydweithrediad llawn.

“Ni fyddai’n briodol i mi wneud sylwadau pellach ar y mater hwn wrth i'r broses fynd rhagddi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.