Y Chwe Gwlad: Her sylweddol i Gymru yn erbyn pencampwyr y byd
Y Chwe Gwlad: Her sylweddol i Gymru yn erbyn pencampwyr y byd
Fe fydd tîm rygbi Cymru yn wynebu her sylweddol yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn wrth herio Lloegr, sef pencampwyr y byd.
Mae Cymru wedi colli 11 o'u 12 gêm brawf ddiwethaf, ac yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad ers 2024.
Fe gollodd tîm Sean Lynn 38-7 yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, ac fe fydd Cymru yn wynebu tîm a wnaeth ennill 84-7 yn erbyn yr Alban.
Mae Lynn wedi gwneud dau newid i'r tîm, gyda Branwen Metcalfe yn chwarae ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth tra bydd Keira Bevan yn dechrau yn safle'r mewnwr yn lle Seren Lockwood.
Bethan Lewis fydd capten y garfan wrth i Kate Williams golli allan oherwydd anaf i’w choes.
Does dim newid i'r pum blaenwr wrth i Gwenllian Pyrs, Sisilia Tuipulotu, Kelsey Jones, Gwen Brabb a Jorja Aiono gychwyn eu pumed gêm yn olynol.
Bethan Lewis a Branwen Metcalfe fydd y blaenasgellwyr tra bod Bryonie King yn cychwyn yn safle'r wythwr.
Lleucu George sydd yn bartner i Keira Bevan yn safleoedd y maswr a'r mewnwr.
Does dim newid i'r tri yn y cefn wrth i Jaz Joyce a Seren Singleton eistedd ar naill asgell a Kayleigh Powell yn y safle cefnwr.
Mae newid mawr ar y fainc wrth i Alisha Joyce gymryd ei lle ac o bosib yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers rhoi genedigaeth i'w phlentyn hi a Jaz Joyce, Ralphie.
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Sean Lynn: "Dwi'n gyffrous iawn i wynebu tîm Lloegr cryf.
"Mae ganddyn nhw nifer o anafiadau, ond rydych chi'n gweld y dyfnder yn y tîm, a mae sgorio 84 o bwyntiau yn erbyn tîm cryf Yr Alban yn dangos safon Lloegr."
Ychwanegodd y capten Bethan Lewis: "Does gennym ni ddim byd o gwbl i golli.
"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi dangos llawer o ddatblygiad yn nhermau ein perfformiad. Yn amlwg nid dyma'r perfformiad cyflawn rydyn ni'n gweithio tuag ato, ond pa dîm gwell i fynd yn ei erbyn na Lloegr i geisio dangos ein safon?"
Bydd y gic gyntaf am 14:15 ddydd Sadwrn, gyda'r gêm yn cael ei chwarae yn Ashton Gate ym Mryste.
Llun: Asiantaeth Huw Evans