Chwaraewr Abertawe, Ollie Cooper yn symud ar fenthyg i Notts County
Mae chwaraewr canolwr cae CPD Abertawe, Ollie Cooper, wedi ymuno â Notts County ar fenthyg ar gyfer y tymor nesaf.
Mae hyn yn amodol ar y brofion meddygol perthnasol.
Mae'r cytundeb yn cynnwys opsiwn i wneud y symudiad yn un parhaol, ac mae chwaraewr rhyngwladol Cymru yn ymuno â Notts County yn Adran Un yn dilyn eu dyrchafiad trwy'r gemau ail gyfle y tymor diwethaf.
Mae Cooper, sy'n 26 oed, wedi bod gyda'r Elyrch ers lefel dan-12, gan symud i fyny'r rhengoedd a gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm hŷn mewn gêm Cwpan FA yn Stevenage yn 2020.
Fe deithiodd Cooper gyda charfan Cymru i Gwpan y Byd yn Qatar ar ddiwedd 2022, ac mae wedi chwarae 118 gwaith i Abertawe ac wedi ennill pum cap dros ei wlad.
Fe dreuliodd hanner cyntaf y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Wigan Athletic, ac yn awr bydd yn chwarae o dan gyn-gynorthwyydd y Swans, Martin Paterson, yn stadiwm Meadow Lane.
Dywedodd y clwb fod “pawb yn dymuno pob llwyddiant i Ollie yn ystod ei gyfnod benthyg”.
Mae e hefyd yn adnabyddus am ymddangos ar raglen realiti “Tanwen ac Ollie” ar S4C.
Llun: CBD Abertawe
