Artist o Abertawe yn creu cerflun ar gyfer Marathon Llundain

Alan Ross gyda'i gerflun ar gyfer Marathon Llundain 2026
Alan Ross gyda'i gerflun ar gyfer Marathon Llundain 2026

Mae cerflunydd o Abertawe wedi creu cerflun o redwr wedi'i orchuddio â chennin pedr ar gyfer Marathon Llundain. 

Cafodd y cerflun ei greu ar gyfer elusen Marie Curie.

Y bwriad yw croesawu rhedwyr wrth iddyn nhw gasglu eu bib ar gyfer y marathon ddydd Sul.

Mae The Daffodil Runner, cerflun sy’n symbol o elusen swyddogol y marathon eleni, wedi’i greu i annog pobl i feddwl am yr "argyfwng gofal diwedd oes".

Dywedodd elusen Marie Curie fod y 557 cennin pedr yn cynrychioli nifer y bobl sy’n marw bob dydd yn y DU heb y gofal diwedd oes sydd ei angen arnynt.

Cafodd y gwaith ei greu â llaw gan y cerflunydd Alan Ross, cyn-weithiwr gofal sydd bellach yn artist dur - gan gymryd dros fwy na 200 awr i'w gwblhau.

"Rwyf am i bobl wenu, rwyf am i bobl feddwl am arwyddocâd bod pob blodyn yn cynrychioli rhywun sydd wedi marw," meddai.

"Dyna wnaeth fy ysgwyd i pan nes i edrych ar nifer y blodau oedd mewn rhes ar fy mainc waith y diwrnod o’r blaen, mae pob un o’r rheini’n drasiedi bersonol ac fe wnaeth hynny fy nhristau ychydig.

"Mae hynny’n ymateb da i’w gael, i sylweddoli bod arwyddocâd. 

"Nid dim ond darn neis o waith ydy hwn - mae teimlad iddo."

'Gwneud i bobl stopio a meddwl'

Mae Dr Sarah Holmes, prif swyddog meddygol Marie Curie, wedi gweithio ym maes gofal lliniarol am bron i 25 mlynedd.

"Mae bylchau o hyd, mae pobl yn dal i gael trafferth cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, ac mae’n teimlo fel nad yw hynny’n gwella’n sylweddol mewn gwirionedd," meddai.

"Mae pob cennin pedr yn cynrychioli person gyda theulu, sy’n cael eu gadael heb y gofal hwnnw, ac mae’r effaith ar deuluoedd yn enfawr."

Image
Cerflun The Daffodil Runner

Ychwanegodd hefyd ei bod yn gobeithio y bydd The Daffodil Runner yn "gwneud i bobl stopio a meddwl".

"Fel cymdeithas, mae angen i ni ddod yn fwy cyfforddus yn siarad am farwolaeth a marw. Nid yw siarad amdano yn achosi iddo ddigwydd. Ond gall siarad, meddwl, cynllunio a pharatoi sicrhau bod pobl yn cael marwolaeth dda," meddai.

"Mae’n adlewyrchu’n wael iawn arnom ni fel cymdeithas nad yw pobl ar ddiwedd eu bywydau yn cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt."

Cafodd y cerflun ei ddatgelu ddydd Mawrth ger Tower Bridge, ar bwynt hanner ffordd llwybr Marathon Llundain. 

Bydd yn cael ei arddangos yn ExCeL Llundain o ddydd Mercher i ysbrydoli rhedwyr wrth iddynt gasglu eu rhifau.

Yn dilyn y marathon, bydd y cerflun yn cael ei symud i Hosbis Marie Curie Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth.

Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan Marie Curie, nid yw un o bob tri pherson yn y DU yn derbyn y gofal diwedd oes sydd ei angen arnynt. Mae'r bwlch yn fwy ar gyfer y rhai sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig.

Bob tair munud, mae rhywun yn marw heb gefnogaeth briodol - bron i 200,000 o bobl bob blwyddyn.

Erbyn 2050, gallai’r ffigwr godi i dros chwarter miliwn, yn ôl yr elusen.

Mae Marie Curie yn darparu gofal diwedd oes arbenigol yn y gymuned ac mewn hosbisau.

Mae'r elusen hefyd yn cynnig llinell gymorth am ddim, yn ogystal â chefnogaeth i deuluoedd.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.