Ceredigion: Gwrthod cynllun i adeiladu 33 o dai fforddiadwy yn Llanilar
Mae cynghorwyr sir Ceredigion wedi gwrthod cynllun dadleuol i adeiladu 33 o dai fforddiadwy ar gyrion pentref Llanilar, i’r de o Aberystwyth.
Yn ystod cyfarfod Pwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion ddydd Mercher, pleidleisiodd wyth o blaid gwrthod y cynllun, un yn erbyn a phedwar yn ymatal.
Cafodd penderfyniad ei ohirio fis diwethaf er mwyn i gynghorwyr ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi argymell gwrthod y cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar dir i’r dwyrain o Fferm Tanrallt.
Yn dilyn yr ymweliad, roedd aelodau’r Panel Archwilio Safleoedd yn unfrydol eu barn y dylid datblygu safleoedd eraill yng nghanol y pentref yn gyntaf, cyn rhoi ystyriaeth ffafriol i’r safle ar gyrion Llanilar.
Fe wnaeth yr aelodau hefyd fynegi pryder am y llwybr troed arfaethedig, gan ddweud y byddai’n well cael llwybr wrth ochr y briffordd.
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Sion Jenkins o gwmni Tair Chwaer Cyf.
Roedd cynlluniau’r datblygiad yn cynnwys 33 o dai, gyda phob un ohonynt yn rhai fforddiadwy.
Deiseb yn gwrthwynebu
Roedd y safle ar dir amaethyddol i’r de o’r A485, i’r gorllewin o’r pentref.
Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys llwybr troed tua 400 metr o hyd y tu ôl i dai presennol er mwyn cysylltu’r datblygiad â gweddill Llanilar.
Dywedodd swyddogion y cyngor fod y safle y tu allan i ffin ddiffiniedig llefydd i fyw yn Llanilar. Fe ddywedon nhw hefyd nad oedd cyfiawnhad digonol dros adeiladu’r tai yno yn hytrach nag ar safleoedd sydd wedi’u dynodi yng nghanol y pentref.
Yn ôl yr adroddiad, byddai lleoliad anghysbell y llwybr wedi annog pobl i yrru pellteroedd byr neu gerdded ar hyd y brif ffordd.
Mae 129 o wrthwynebiadau wedi dod i law’r cyngor, gan gynnwys deiseb â 252 o lofnodion.
Roedd trigolion wedi codi pryderon am effaith bosib y cynllun ar wasanaethau lleol, diogelwch ar y briffordd, y Gymraeg a Chartref Gofal Preswyl Cysgod y Coed gerllaw.
Ni wrthwynebodd Priffyrdd Ceredigion, Dŵr Cymru na Chyfoeth Naturiol Cymru y cais, yn ddibynnol ar amodau.
