Ceredigion â'r gostyngiad canrannol mwyaf mewn tafarndai yng Nghymru
Mae nifer y tafarndai a bariau yng Ngheredigion wedi gostwng 35% ers 2010, y gostyngiad canrannol mwyaf ymhlith yr ardaloedd yng Nghymru gafodd eu cynnwys mewn dadansoddiad newydd.
Roedd 100 o dafarndai a bariau yn y sir yn 2010, o’i gymharu â 65 yn 2025, sef 35 yn llai.
Roedd Ceredigion hefyd yn nawfed ym Mhrydain am y gostyngiad canrannol mwyaf ymhlith yr ardaloedd gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad.
Ledled Cymru, mae’r dadansoddiad yn dangos bod nifer y tafarndai a bariau wedi gostwng o 2,720 yn 2010 i 2,035 yn 2025.
Mae hynny’n ostyngiad o 685, neu 25.2%.
Cafodd y ffigurau eu dadansoddi gan wefan The Punters Page, gan ddefnyddio data UK Business Counts y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dim ond ardaloedd oedd â 50 neu fwy o dafarndai yn 2010 gafodd eu cynnwys.
Dywedodd yr ymchwilwyr fod hynny oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau yn talgrynnu’r ffigurau i’r pump agosaf, sy’n golygu y gall canrannau newid yn sylweddol mewn ardaloedd sydd â nifer llai o dafarndai.
O dan y meini prawf hynny, Ceredigion oedd â’r gostyngiad canrannol mwyaf yng Nghymru.
Dywedodd James Byrne, Pennaeth Cynnwys The Punters Page, fod y dafarn leol ers tro wedi bod yn fan lle mae pobl yn dod at ei gilydd i wylio pêl-droed, rasio a digwyddiadau chwaraeon mawr.
“Mae pob tafarn sy’n cau yn golygu colli’r lle cymunedol hwnnw o dref neu bentref,” meddai.
“Os oes tafarn yn eich ardal chi o hyd, y ffordd orau o’i chadw yw ei defnyddio, boed hynny ar ddiwrnod gêm neu ar noson gwis.
“Mae’n llawer anoddach cau tafarn brysur na thafarn dawel.”
Mae’r ffigurau’n dod mewn cyfnod o bwysau parhaus ar y sector lletygarwch.
Cymorth
Mae mudiad CAMRA Cymru wedi dweud yn ddiweddar fod tafarndai a chlybiau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig mewn cymunedau, ac wedi galw am gymorth i sicrhau bod mwy ohonynt yn gallu goroesi a ffynnu.
Wrecsam oedd yn ail yng Nghymru, gyda nifer y tafarndai a bariau yn gostwng o 115 yn 2010 i 75 yn 2025, sef gostyngiad o 34.8%. Roedd Wrecsam yn ddegfed ym Mhrydain.
Roedd gostyngiad o 33.3% yn Sir Fynwy a Thorfaen, tra bod nifer y tafarndai a bariau ym Mhenfro a Phowys wedi gostwng 32.5%.
Er bod y gostyngiad canrannol yng Ngheredigion yn fwy, collodd rhai ardaloedd fwy o dafarndai mewn niferoedd gwirioneddol.
Gostyngodd nifer y tafarndai a bariau ym Mhenfro a Phowys o 200 i 135, sef 65 yn llai ym mhob ardal.
Yn Rhondda Cynon Taf, roedd gostyngiad o 180 i 125, sef 55 yn llai, ac roedd 55 yn llai hefyd yn Sir Gaerfyrddin, o 185 i 130.
Yn ôl y dadansoddiad, Cymru oedd â’r gostyngiad canrannol mwyaf o blith gwledydd a rhanbarthau Prydain.
Conwy oedd yr unig ardal yn y safle yng Nghymru lle nad oedd gostyngiad, gyda 100 o dafarndai a bariau yn 2010 ac yn 2025.
Ni chafodd Merthyr Tudful na Blaenau Gwent eu cynnwys yn yr ystadegau gan fod gan y ddwy ardal lai na 50 o dafarndai yn 2010.
Roedd gan Ferthyr Tudful 45 o dafarndai yn 2010 a 35 yn 2025, tra bod y ffigwr ar gyfer Blaenau Gwent wedi gostwng o 45 i 25.