Cau ward yn Ysbyty Glangwili oherwydd achosion o'r clefyd crafu

glangwili

Mae ward mewn ysbyty yn Sir Gâr wedi’i chau yn dilyn nifer o achosion o'r clefyd crafu Norwyaidd (crusted scabies).

Mae sawl achos o’r haint wedi’u cadarnhau yn ardal Sir Gâr, yn ôl y Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

O ganlyniad, mae ward Steffan yn Ysbyty Glangwili bellach wedi'i chau, gyda'r bwrdd iechyd yn dweud bod yr holl gleifion a staff sydd wedi dod mewn cyswllt â’r haint wedi cael gwybod ac wedi cael cynnig triniaeth, boed ganddynt symptomau neu beidio.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Mae Ward Steffan yn Ysbyty Glangwili ar gau ar hyn o bryd i dderbyniadau a throsglwyddiadau tra ein bod yn rheoli achosion o'r clefyd crafu (scabies) ar y ward, yn unol â gweithdrefnau atal a rheoli heintiau sefydledig.

“Mae mesurau atal a rheoli heintiau ychwanegol wedi'u gweithredu ar y ward, gan gynnwys monitro gwell, trin cysylltiadau a nodwyd a chefnogaeth barhaus gan dimau arbenigol.

"Ar hyn o bryd mae mwy o achosion o'r clefyd crafu yn y gymuned ar draws ardal Hywel Dda, sy'n ffactor sy'n cyfrannu at achosion mewn ysbytai. " 

“Byddwn yn adolygu'r sefyllfa, a bydd y ward yn ailagor yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.