Cau rheilffordd arfordir y gogledd am fis ar ddechrau 2027

Rheilffordd Arfordir y Gogledd

Bydd rheilffordd arfordir Gogledd Cymru yn cau am bedair wythnos yn nechrau 2027 wrth i waith gwerth dros £25 miliwn gael ei wneud ar y llwybr.

Bydd y rheilffordd ar gau rhwng dydd Sadwrn 9 Ionawr a dydd Sadwrn 6 Chwefror 2027 er mwyn i Network Rail gyflawni rhaglen fawr o waith rhwng Caer a Chaergybi.

Yn ystod y tair wythnos gyntaf, bydd y rheilffordd ynghau rhwng Caer a Chaergybi, gan gynnwys llinell Dyffryn Conwy a'r gangen rhwng Cyffordd Llandudno a Llandudno.

Yn ystod y bedwaredd wythnos, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi yn unig.

Bydd bysiau yn rhedeg yn lle trenau yn ystod y cyfnod, gyda manylion llawn y trefniadau teithio i gael eu cyhoeddi yn yr hydref.

Dywedodd Network Rail fod y rhaglen yn gyfle i wneud gwerth blynyddoedd o waith mewn un cyfnod, gan leihau'r angen am gau'r rheilffordd ar benwythnosau yn y dyfodol.

Mae'r gwaith yn cynnwys adnewyddu trac ar Bont Reilffordd Diwbaidd Conwy, lle mae'r trac presennol yn dyddio'n ôl i 1978, a gwaith ar y trac a'r draeniau yn Nhwnnel Bodorgan, lle mae seilwaith yn dyddio'n ôl i 1972.

Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud ym Mhenmaen-bach, Caergybi, Llandudno a Chyffordd Llandudno, yn ogystal â phedair croesfan wastad i'r dwyrain o Fangor.

Bydd dwy bont droed gwbl hygyrch newydd hefyd yn cael eu hadeiladu ym Mhrestatyn ac Abergele, gan ganiatáu cau pedair croesfan wastad risg uchel.

Mae tua £1.4 miliwn hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer gwaith rheoli llystyfiant mewn naw lleoliad.

Dywedodd Emma Osborn, Cyfarwyddwr Strategaeth i Deithwyr llwybr Cymru a'r Gororau Network Rail: "Mae'r buddsoddiad unigryw hwn yn rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gyfle euraid i adnewyddu a gwella seilwaith ar draws y llwybr pwysig hwn.

"Mae'n anochel y bydd buddsoddiad ar raddfa mor fawr yn achosi rhywfaint o darfu dros dro wrth inni gwblhau'r gwaith, a gwyddom y bydd cau'r rheilffordd yn effeithio ar gwsmeriaid a chymunedau.

"Ond trwy ddod â gwerth blynyddoedd o waith cymhleth at ei gilydd mewn un rhaglen ddwys, gallwn ei gyflawni'n fwy diogel ac effeithlon, ac osgoi cyfres estynedig o benwythnosau pan fydd y rheilffordd ar gau."

Ychwanegodd y bydd y gwaith yn darparu rheilffordd "fwy diogel a dibynadwy" a fydd yn gallu cefnogi'r nifer ychwanegol o wasanaethau sy'n rhedeg ar draws Gogledd Cymru.

Daeth amserlen newydd i rym ym mis Mai eleni, gyda nifer gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar Linell Arfordir Gogledd Cymru yn cynyddu tua 50%.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: "Wrth i ni weld cynnydd yn nifer y teithwyr ac amlder y gwasanaethau ar draws gogledd Cymru, mae gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn Network Rail yn hanfodol i sicrhau y gall ein seilwaith gefnogi'r galw hwnnw.

"Rydyn ni'n gwybod bod cau rheilffyrdd yn amharu ar ein teithwyr, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eu hamynedd."

Dywedodd cwmni Avanti West Coast y bydd newidiadau i'w gwasanaethau yn ystod y gwaith, ac mae'n cynghori teithwyr i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

Dywedodd Network Rail fod mis Ionawr wedi cael ei ddewis gan ei fod yn gyfnod tawelach i dwristiaeth yng ngogledd Cymru yn draddodiadol, gyda llawer o barciau gwyliau ac atyniadau ar gau am y tymor.

Mae disgwyl i amserlenni manwl ar gyfer misoedd Ionawr a Chwefror gael eu cyhoeddi rhwng diwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.