Cau Pont y Borth er mwyn cynnal archwiliad diogelwch
Mae Pont y Borth rhwng Ynys Môn a'r tir mawr wedi cael ei chau brynhawn Llun er mwyn cynnal archwiliad diogelwch.
Dywedodd Traffig Cymru fod y penderfyniad i gau'r bont ychydig wedi 16.30 wedi ei wneud am fod "cerbyd dros bwysau" wedi ei chroesi.
O ganlyniad, mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd er mwyn cynnal archwiliad diogelwch.
"Oherwydd bod cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont yn gynharach heddiw, mae'n rhaid cau’r ffordd er mwyn cynnal archwiliad. Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny," meddai llefarydd ar ran Traffig Cymru.
"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra, ond ein blaenoriaeth yw eich diogelwch.
"Hoffem eich atgoffa mai dim ond cerbydau o dan 7.5t sy’n cael defnyddio Pont Menai."
Mae'r bont eiconig yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed eleni.
Mae cyfyngiadau ar bwysau cerbydau mewn grym ar y bont ar hyn o bryd wrth i waith atgyweirio ar y strwythur hanesyddol gael ei gwblhau.
Bydd y gwaith atgyweirio hwnnw ar y bont yn parhau tan o leiaf dechrau 2027, meddai Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr.
Cafodd terfyn pwysau newydd ei gyflwyno yn dilyn "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol ym mis Hydref y llynedd.
Roedd archwiliad wedi darganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont, ac fe gafodd y bont ei chau yn llwyr am gyfnod.