Casnewydd: Gŵyl Gymraeg yn gobeithio 'newid agwedd pobl' cyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd
Mae trefnydd gŵyl Gymraeg yng Nghasnewydd yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn gallu "newid agwedd pobl" tuag at y Gymraeg cyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd â’r ddinas y flwyddyn nesaf.
Bydd Gŵyl Newydd yn cael ei chynnal ar faes Rodney Parade yn y ddinas ddydd Sadwrn, a bydd y digwyddiad eleni yn fwy "uchelgeisiol" nag erioed.
Bydd perfformiadau gan Mei Gwynedd, Yr Argraff ac ysgolion lleol, gyda gweithdai ac ardal chwaraeon ar gael i blant hefyd.
Menter Iaith Casnewydd sydd wedi trefnu'r ŵyl, ac o dan arweiniad ei phrif weithredwr, Dafydd Duggan, y gobaith yw "croesawu torf newydd o bobl" i ddigwyddiad Cymraeg yn y ddinas cyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd yn 2027.
"Rydym yn gyffrous iawn am yr ŵyl eleni, ac ein slogan yn y swyddfa yw 'Gŵyl Newydd ar ei newydd wedd' - a dyna beth yw e eleni," meddai wrth Newyddion S4C.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n creu digwyddiadau sylweddol yn y Gymraeg yng Nghasnewydd oherwydd mae’r Urdd rownd y gornel, ac mae’n bwysig bod pobl yn ymgyffred â’r naws a’r ymdeimlad o ddathlu’r Gymraeg yn y de-ddwyrain.
“Mae’n bwysig bod pobl sy’n gallu’r Gymraeg yn cael diwrnod i’w fwynhau yng Nghasnewydd, ond yn bersonol dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig croesawu torf newydd o bobl o gefndiroedd gwahanol i fwynhau hefyd.
“Dwi’n credu bod Gŵyl Newydd yn ddiwrnod perffaith i ddysgwr neu rywun sy’n Cymraeg-curious, fel dwi’n licio eu galw nhw, y rhai sydd ddim yn siŵr am ddefnydd y Gymraeg ond sydd eisiau cael profiadau gyda’r iaith."
Mae tua 13,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yng Nghasnewydd yn ôl ffigurau Cyfrifiad 2021.
Yn 2022, fe wnaeth Cyngor Casnewydd gyhoeddi cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, gydag addysg yn ganolog i'r cynllun.
Erbyn hyn, mae pedair ysgol gynradd Gymraeg ac un ysgol uwchradd wedi agor, a thrwy agor y bedwaredd ysgol gynradd ym mis Medi 2021, roedd Cyngor Casnewydd yn gallu cynnig 50% yn fwy o leoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg.
Er bod mwy o blant yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas, mae Dafydd Duggan yn dweud bod "newid agwedd" at yr iaith yn her y mae’n ei hwynebu bob dydd.
“Newid agwedd yw’r un o’r pethau mwyaf heriol dwi’n wynebu yn ddyddiol, pobl yn gofyn beth yw’r menter, be' ni’n neud a gorfod egluro ein pwrpas ond hefyd beth yw pwrpas y Gymraeg," meddai.
“Fi'n credu bod yr Urdd yn dod i Gasnewydd yn anhygoel, mae mynd i fod mor gyffrous yma mewn flwyddyn.
"Ond dwi’n meddwl bod dyletswydd arnom yn y fenter sydd yn browd o allu siarad Cymraeg, i godi ymwybyddiaeth a tynnu pobl eraill gyda nhw.
“Mae’r Urdd yn dod yn rhoi hwb i ni, ond mae dyletswydd arnom i gynyddu ymwybyddiaeth o’r Urdd dros y flwyddyn nesaf."
'Ffenest siop'
Tua 5% o boblogaeth Casnewydd sy’n siarad Cymraeg, ac yn ôl cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Bro Wenynen 2027, mae angen dangos bod y Gymraeg yn "iaith fyw" yn y ddinas.
“Yn aml pan mae 'na siaradwyr newydd yn dod i ddysgu’r iaith mewn dosbarth, yn amlwg beth sydd angen wedyn yw’r cyfle iddyn nhw ymarfer a siarad, clywed ac yn teimlo bod nhw’n rhan o rywbeth mwy 'na jyst dosbarth," meddai Elin Maher wrth Newyddion S4C.
Ychwanegodd Elin: “Ma’r Gymraeg yn iaith sy’n cael ei defnyddio o ddydd i ddydd, a ni ishe amlygu hwnna mewn gŵyl fel hon, bod y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol.
“Mae’n ffenest siop i Eisteddfod yr Urdd flwyddyn nesa heb os.
“Byddwn yn teimlo’r ymdeimlad lleol yna ar raddfa lai ac wrth gwrs mi fyddwn ni fel criw pwyllgor gwaith yno yn codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth ynghylch yr eisteddfod.
“Ma’r gwyliau dros yr haf yn bethau hanfodol pwysig i fod yn ffenest siop ar gyfer yr eisteddfod blwyddyn nesa'.”