Casnewydd: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw
Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn 66 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth menyw yn y ddinas.
Mae’r dyn wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd swyddogion arfog eu galw yn dilyn adroddiad o ffrwgwd tu allan i eiddo ar Ffordd Sant Vincent yn y ddinas yn oriau mân fore Sadwrn.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd John Davies: “Rydym yn deall bod adroddiadau o’r natur hon yn peri pryder mawr a gofid i’n cymunedau.
“Mae dyn, a gafodd ei arestio yn y fan a’r lle, ar hyn o bryd yn y ddalfa gan yr heddlu, ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r farwolaeth.
“Bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal, tra bod ein swyddogion yn parhau i gynnal ymholiadau."
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600229981.
Llun: Google