Carcharu dyn o Ben-y-bont am ymosod yn rhywiol ar fenyw mewn car
Mae dyn 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar fenyw a stelcian.
Cafodd George Gillet ei garcharu am ddwy flynedd a phum mis yn Llys y Goron Caerdydd.
Roedd wedi pledio’n ddieuog yn wreiddiol, ond fe newidiodd ei ble ar 6 Ionawr, gan bledio’n euog i ymosod yn rhywiol ar fenyw mewn car ym Mhen-y-bont ar 13 Gorffennaf 2025.
Cafodd ei ddyfarnu'n euog o ddau achos yn ymwneud â stelcian hefyd.
Dywedodd y Cwnstabl Ditectif Evan Thomas o Heddlu’r De ei fod yn diolch i’r fenyw am ei “chryfder a dyfalbarhad” yn ystod yr ymchwiliad.
“Fe gafodd gweithrediadau Gillet effaith sylweddol arni, ac rwy’n gobeithio y gallai’r ddedfryd yma ei helpu i symud ymlaen.”