Carcharu cyn-bencampwr snwcer y byd Graeme Dott am gam-drin plant yn rhywiol
Mae cyn-bencampwr snwcer y byd Graeme Dott wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o gam-drin dau blentyn oed ysgol gynradd yn rhywiol.
Fe wnaeth Dott, 49 oed, gam-drin merch a bachgen ar sawl achlysur, gyda'r ferch yn cael ei cham-drin rhwng 1993 a 1996 a'r bachgen rhwng 2006 a 2010.
Fe wnaeth Dott ymddangos mewn llys yng Nghaeredin ddydd Mawrth, lle dywedodd y barnwr, yr Arglwydd Harrower, ei fod wedi “dwyn rhan sylweddol o blentyndod y dioddefwyr oddi arnyn nhw”.
Wrth ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar, dywedodd y barnwr fod ymddygiad Dott wedi bod yn “gamddefnydd difrifol o ymddiriedaeth".
Clywodd achos llys pum niwrnod fod Dott wedi datgelu ei hun o flaen y ddau blentyn, eu cyffwrdd yn amhriodol a'u cusanu.
Ym mis Awst, fe'i cafwyd yn euog o ddau gyhuddiad o ymddygiad rhywiol anweddus tuag at y plant.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor gan un o'r dioddefwyr, sydd bellach yn ei 40au.
Dywedodd wrth y llys fod Dott wedi ei cham-drin yn rhywiol ar sawl achlysur pan oedd yn blentyn.
Dywedodd yr ail ddioddefwr, dyn sydd bellach yn ei 20au hwyr, ei fod hefyd wedi cael ei gam-drin yn rhywiol gan Dott ar sawl achlysur.
Roedd Dott wedi gwadu'r cyhuddiadau, ond fe'i cafwyd yn euog gan y rheithgor.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa yn dilyn yr euogfarn, ac fe gafodd ei enw ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw.
Trodd Dott yn chwaraewr snwcer proffesiynol yn 1994 ac fe enillodd Bencampwriaeth Snwcer y Byd yn 2006, gan guro Peter Ebdon yn y rownd derfynol yn y Crucible yn Sheffield.
Fe gyrhaeddodd y rownd derfynol ar ddau achlysur arall, gan golli i Ronnie O'Sullivan yn 2004 ac i Neil Robertson yn 2010.
Yn dilyn ei euogfarn, cafodd enw Dott ei dynnu o Oriel Anfarwolion World Snooker.