Caerdydd: Carcharu dyn am ladrata a dwyn ceir
Caerdydd: Carcharu dyn am ladrata a dwyn ceir
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am flwyddyn a naw mis am ddwyn ceir a nwyddau eraill, a throseddau gyrru.
Cafodd Liam McDonald, 35 oed, ei ddedfrydu i 91 wythnos o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Mae e hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.
Plediodd yn euog i naw trosedd mewn gwrandawiad blaenorol, sef:
-dwyn cerbydau a gyrru'n beryglus
-dwyn cerbyd modur heb ganiatâd y perchennog
-dau gyhuddiad o yrru tra roedd wedi'i wahardd
-defnyddio cerbyd modur ar ffordd/mewn man cyhoeddus heb yswiriant
-dau gyhuddiad o ddwyn o gerbyd
-dau gyhuddiad o ddwyn o siop
Mewn un achos roedd McDonald wedi dwyn car, cyn i blismyn ddod o hyd iddo ger Tramshed yn ardal Grangetown.
Ceisiodd McDonald ffoi rhag yr heddlu, ac fe yrrodd ar ochr anghywir y ffordd ar Stryd Wellington.
Cafodd ei atal a'i arestio gan swyddogion yn y pen draw.
Clywodd y llys hefyd ei fod wedi dwyn pum jar o goffi o siop B&M yn Lecwydd, dwy botel o wisgi gwerth £119 o Waitrose ym Mhontprennau a dau gar arall a gafodd eu darganfod rhwng Heol Sloper a Heol Lecwydd yn y brifddinas.
Ar ôl iddo gael ei ddedfrydu, dywedodd y swyddog ymchwilio PC Paul Griffiths o dîm cymdogaeth Caerdydd: "Gwnaeth McDonald gyflawni cyfres o droseddau a gafodd effaith sylweddol ar y bobl a'r busnesau yn ei gymunedau.
"Hefyd fe wnaeth roi pobl ar y ffordd mewn perygl y diwrnod hwnnw yn sgîl ei ffordd o yrru, a hynny heb drwydded. Rwy'n falch o weld y ddedfryd hon yn cael ei rhoi heddiw.”