Caerdydd: Camau lles ychwanegol ar gyfer cyngerdd The Cure o achos y gwres
Mae trefnwyr cyngerdd The Cure yng Nghaerdydd wedi gosod nifer o "gamau lles ychwanegol" mewn lle cyn y digwyddiad yn y brifddinas nos Fercher.
Mae disgwyl i filoedd heidio i ddigwyddiad Blackweir Live ar gaeau'r Gored Ddu, a hynny mewn cyfnod pan fod rhybudd coch am wres eithafol mewn grym yn yr ardal.
Dywedodd y trefnwyr eu bod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa, gyda "nifer o gamau lles ychwanegol mewn grym er mwyn cynorthwyo pobl i fod yn ddiogel, yn gyfforddus ac i fwynhau'r digwyddiad."
Mae'r camau ychwanegol yn cynnwys gadael i bobl ddod â mwy o ddŵr na'r hyn sy'n cael ei ganiatau'n arferol i'r digwyddiad.
Bydd modd dod â dwy botel 500ml o ddŵr i bob person yn y digwyddiad.
Fe fydd mwy o ardaloedd cysgodol yn cael eu gosod ar y safle, ac fe fydd mannau i ail-lenwi poteli dŵr ar gael hefyd.
"Diogelwch a lles yr holl fynychwyr yw ein blaenoriaeth o hyd. Gofalwch amdanoch chi'ch hunain a'ch gilydd, a pheidiwch ag oedi cyn siarad â'n tîm lles os oes angen unrhyw gymorth arnoch," ychwanegodd llefarydd.
Bydd nifer o ffyrdd ar gau ar hyd rhan o Heol y Gogledd a'r strydoedd cyfagos cyn ac ar ôl perfformiad The Cure.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 16:00 a hanner nos:
- Stryd y Castell (o'r gyffordd â Heol y Porth)
- Heol y Dug
- Ffordd y Brenin
Bydd y ffyrdd canlynol hefyd ar gau rhwng 16:00 a hanner nos:
- Heol y Gogledd o'r gyffordd â Heol Colum i Boulevard de Nantes.
- Boulevard de Nantes, i'r gyffordd â Phlas y Parc. Bydd bysus yn cael mynediad trwy Blas y Parc a Boulevard de Nantes ac i Heol Tŷ'r Brodyr i gael mynediad i Heol y Brodyr Llwydion.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, o Heol y Gadeirlan drwodd i'r gyffordd â Heol y Porth, gyda mynediad i Heol y Porth yn cael ei ganiatáu.