Y cadoediad ag Iran ‘ar ben’ meddai Donald Trump
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud bod y cadoediad ag Iran “ar ben”.
Fis diwethaf, fe lofnododd Tehran a Washington femorandwm 14 tudalen, gyda'r nod o ymestyn y cadoediad a dod â'r gwrthdaro i ben.
Ond yn sgil ymosodiadau ar danceri olew yng Nghulfor Hormuz yn gynharach yn yr wythnos, mae’r ddwy wlad wedi bod yn targedu safleoedd ei gilydd unwaith eto.
Dywedodd Donald Trump wrth ohebwyr yng nghynhadledd Nato fore dydd Mercher: “Dydw i ddim eisiau delio gyda nhw rhagor. Maen nhw’n afiach ('scum').
“Hyd y gwela i, mae ar ben,” meddai. “Mae’n wastraff amser delio efo nhw, maen nhw’n gelwyddgwn.
“Mae yna rywbeth yn bod efo nhw. Maen nhw’n sâl. Maen nhw’n chwarae yn fudr.”
Ychwanegodd bod unrhyw drafodaeth bellach yn “wastraff amser”.
Yn hwyr ddydd Mawrth, dywedodd yr Unol Daleithiau eu bod wedi ymosod ar fwy nag 80 o dargedau Iran.
Wrth ymateb, dywedodd Iran ei bod wedi targedu safleoedd milwrol yr Unol Daleithiau yn Bahrain a Kuwait.
Daw hyn yn dilyn ymosodiadau yn gynharach yn yr wythnos ar dri thancer olew yng Nghulfor Hormuz. Nid yw Iran wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau yn uniongyrchol.
Mae pennaeth Nato, Mark Rutte, wedi dweud bod ymosodiadau’r Unol Daleithiau yn “hollol angenrheidiol”, gan gyhuddo Iran o “dorri’r cadoediad”.
Mae llefarydd Senedd Iran, Mohammad Bagher Ghalibaf, yn dweud mai’r Unol Daleithiau a dorrodd y cadoediad.