Burnham yn galw am bwyll yn sgil tensiynau yng Ngogledd Iwerddon am orymdaith yr Urdd Oren

urdd oren.jpg

Mae Prif Weinidog y DU Andy Burnham wedi apelio ar bob ochr i bwyllo yn sgil cynlluniau i orymdaith gan yr Urdd Oren (Orange Order) fynd drwy ardal genedlaetholgar yn bennaf yng Ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf ers degawdau.

Fe wnaeth miloedd o brotestwyr rwystro Ffordd Garvaghy yn Portadown mewn ymgais i atal gorymdaith aelodau’r Urdd Oren rhag mynd heibio, ar ôl i lys yn Belfast ddyfarnu dros nos y gallai’r orymdaith fynd yn ei blaen.

Mae gorymdaith Drumcree, a oedd yn gysylltiedig â gwrthdaro treisgar yn ystod cyfnod yr Helyntion (The Troubles), wedi cael ei gwahardd ers 1998. 

Yn sgil y tensiynau cymunedol, fe ddywedodd y Prif Weinidog fod yna "gynnydd mawr wedi bod yng Ngogledd Iwerddon, a 'dan ni ddim eisiau gweld pethau yn mynd am yn ôl".

"Dw i'n gwybod ei bod hi'n sefyllfa anodd. Rydyn ni'n apelio am bwyll ar bob ochr.

"Mae hi'n sefylla heriol heddiw, ond mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio i sicrhau sefyllfa heddychlon."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon Chris Bryant ei fod yn cyfyngu ei amser yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl er mwyn teithio i Belfast er mwyn siarad yn uniongyrchol ag arweinwyr yno. 

"Dw i'n ymwybodol y bydd nifer o bobl yn gwylio'r sefyllfa yn agos iawn, gan gynnwys pobl sydd ag atgofion maith o bethau a ddigwyddodd 30 mlynedd yn ôl, ac fe fydd pobl yn nerfus ac yn ofidus.," meddai.

"Felly y peth mwyaf dw i'n meddwl ydy fod pobl yn cydweithredu â'r heddlu."

Dywedodd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ac is-lywydd Sinn Féin, Michelle O’Neill, fod ailgynnau anghydfod Drumcree "yn codi cwestiynau am sut mae’r broses heddwch gyfan hon yn gweithio".

Fe wnaeth Ms O'Neill siarad ar Ffordd Garvaghy ochr yn ochr â phrotestwyr a oedd wedi ymgynnull i rwystro’r orymdaith."

Yn y cyfamser, fe ddywedodd arweinydd DUP Gavin Robinson y dylai Ms O'Neill "gynnal penderfyniadau cyfreithlon, yn hytrach na thanio gwrthwynebiad iddyn nhw".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.