Burnham yn cyhoeddi buddsoddiad o £8.4 biliwn mewn llongau tanfor niwclear
Mae Andy Burnham wedi cyhoeddi buddsoddiad o £8.4 biliwn mewn llongau tanfor niwclear, gan ddweud y bydd yn cadw Prydain yn ddiogel am ddegawdau.
Bydd y llongau tanfor ag arfau niwclear yn disodli’r llongau presennol o ddosbarth Vanguard ac yn gallu lansio taflegrau balistig Trident 2 D5.
Bydd system yrru niwclear Rolls-Royce, sy’n cael ei chynhyrchu yn Derby, yn eu pweru, gan olygu na fydd rhaid iddyn nhw roi'r gorau i deithio.
HMS Dreadnought yw’r gyntaf o bedair llong danfor niwclear newydd sy’n cael eu datblygu yn Barrow-in-Furness, Cumbria.
Bydd y gwariant yn helpu i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, meddai’r Prif Weinidog.
Dywedodd Andy Burnham: “Cadw’r wlad hon yn ddiogel yw cyfrifoldeb cyntaf unrhyw lywodraeth.
“Ond nid yw diogelwch yn ymwneud â’r hyn rydyn ni’n ei adeiladu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â phwy sy’n ei adeiladu a phwy sy’n elwa ohono.
“Bydd y llongau tanfor sy’n cael eu cynhyrchu yn Barrow yn amddiffyn Prydain am ddegawdau i ddod, a bydd y 47,000 o swyddi a phrentisiaethau yn newid bywydau yn y dref hon ac mewn dwsinau o leoedd tebyg.
“Mae arian Prydain yn cael ei wario ar weithwyr, cwmnïau a sgiliau Prydeinig, yn y lleoedd a gafodd eu hanghofio am 40 mlynedd.
“I bob person ifanc ledled y wlad, rydw i am i chi wybod bod llwybr ar gael i chi mewn Prydain sydd wedi’i hailddiwydiannu, ac mae’n dechrau gyda’r prentisiaethau rydyn ni’n eu hariannu drwy’r buddsoddiad hwn heddiw.”
Mae’r Sefydliad Niwclear Amddiffyn ehangach yn y DU yn cynnal tua 47,000 o swyddi, gan gynnwys 9,000 yn Aldermaston a Burghfield yn Berkshire, 8,000 yng nghanolfan y llynges yn Devonport, Plymouth, a 13,500 yn Barrow, Cumbria.
O’r £8.4 biliwn ar gyfer rhaglen llongau tanfor Dreadnought, bydd £5.9 biliwn yn mynd i gwmni BAE Systems a £2.5 biliwn i’r gadwyn gyflenwi ehangach.
Ymateb
Mae arweinydd y Blaid Werdd yn San Steffan, Ellie Chowns, wedi beirniadu’r penderfyniad i wario biliynau o bunnoedd ar “arfau na ddylai byth gael eu defnyddio”.
Ychwanegodd “na ddylai gweinidogion esgus mai’r ffordd orau o greu swyddi yw drwy wario symiau cynyddol o arian i’r rhaglen arfau niwclear”.
Dywedodd y dylai Mr Burnham ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar ddatgloi cyfleoedd yn yr economi lân a gwyrdd.
Rhybuddiodd ysgrifennydd amddiffyn yr wrthblaid, James Cartlidge, ei bod yn ymddangos bod hwn yn fater o ailgyhoeddiad o gyllid a gafodd ei gadarnhau eisoes yn y Cynllun Buddsoddi Amddiffyn.
Ond ychwanegodd: “Er hynny, rydyn ni’n croesawu’r cynnydd parhaus ar raglen Dreadnought.
“Mae’n peri pryder nad oes unrhyw fanylion o hyd am addewid mawr yr adolygiad amddiffyn strategol, sef caffael ‘hyd at 12’ o longau tanfor ymosodol.
“Roedd y Cynllun Buddsoddi Amddiffyn i fod i egluro’n union beth roedd ‘hyd at 12’ yn ei olygu, ond dydyn ni ddim callach o hyd.”
