Bron i £25,000 wedi’i godi i deulu bachgen ifanc a fu farw yn Llanfairfechan

Llanfairfechan. Harrison Glynne Jones

Mae bron i £25,000 wedi’i godi i deulu bachgen chwech oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llanfairfechan bnawn Iau.

Mae cronfa wedi ei sefydlu yn lleol yn dilyn marwolaeth Harrison Glynne Jones, a hynny er mwyn helpu ei deulu gyda chostau angladd a gwasanaeth coffa iddo, yn ogystal â chostau eraill.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Lanfairfechan toc wedi 17.00 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng fan Ford Transit wen a phlentyn.

Bu farw Harrison yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd dyn lleol 39 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Ddydd Sadwrn, cynhaliodd CPD Llanelwy funud o dawelwch er cof am Harrison yn eu gêm yn erbyn Llanfairfechan.

Cafodd Harrison ei ddisgrifio gan ei deulu fel “hogyn direidus, llawn cymeriad, gyda phersonoliaeth a allai oleuo ystafell”.

Mewn neges ar dudalen yr apêl, mae’r teulu’n dweud bod “byd ein teulu wedi newid am byth” wedi ei farwolaeth.

“Does dim geiriau i ddisgrifio’n iawn y torcalon a’r dinistr emosiynol y mae ei rieni, ei chwiorydd a’n teulu cyfan yn mynd drwyddo,” meddai’r neges.

Mae ymchwiliad i amgylchiadau’r gwrthdrawiad yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.