'Braf iawn': Gŵyl Arall yn ôl i'w llawn gapasiti am y tro cyntaf ers y pandemig
Mae Gŵyl Arall yng Nghaernarfon wedi dychwelyd i'w llawn gapasati am y tro cyntaf ers y pandemig, gyda rhaglen ehangach nag ers blynyddoedd a mwy o bobl yn cymryd rhan.
Yn ôl y trefnwyr, mae'r ŵyl gelfyddydol wedi bod yn ailadeiladu'n raddol ers Covid, ond eleni mae wedi cyrraedd y pwynt lle gall gynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau sy'n cynnwys celf, cerddoriaeth, comedi, teithiau, a digwyddiadau i blant.
Dywedodd Menna Thomas, sy'n rhan o'r tîm sy'n trefnu'r ŵyl yn flynyddol, ei bod hi'n "braf iawn" gallu cynnig arlwy lawn eto.
"Yn amlwg, y mwya' 'da ni’n cynnal, y mwya' mae pobl isho cymryd rhan," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae 'na lot o bethau wedi dod atom ni eleni yn hytrach na ni’n mynd atyn nhw, sy'n golygu bod ni'n gallu cydweithio efo mwy efo pobl.
"Mae hynny'n adeiladu perthnasau ac yn dod â mwy o ysbryd cymdeithasol a chymunedol i'r ŵyl."
Ymhlith uchafbwyntiau'r penwythnos mae arddangosfa gelf yng Nghastell Caernarfon gyda 20 o artistiaid yn ymateb i'r thema "Mudo", gigs gan Cowbois Rhos Botwnnog, Ffenest, Achlysurol, Alis Glyn, a Pioden yn Neuadd y Farchnad nos Sadwrn, cystadleuaeth fysgio (busking), a rhagor o weithgareddau i deuluoedd.
Mae'r ŵyl hefyd wedi ehangu ei rhaglen gomedi yn dilyn llwyddiant digwyddiadau'r llynedd.
Bydd cymysgedd o enwau cyfarwydd a newydd yn perfformio yn Siop Jac Y Do yn Doc Fictoria dros y penwythnos, gan gynnwys Katie Gill, Carwyn Blayney, Caryl Burke, Steffan Evans a Mikey Bell.
Bydd rhagor o deithiau'n cael eu cynnwys eleni hefyd, gan gynnwys taith gerdded gyda'r cerddor Rhys Mwyn ar hyd yr afon Cadnant, a thaith natur o amgylch ardal Caernarfon gyda Siân Shakespear.
Ac yn dilyn dau daith cenedlaethol, bydd Tudur Owen yn trafod ei ddrama Huw Fyw yn Llety Arall.
Er gwaethaf y tywydd poeth, dywedodd Ms Thomas ei bod yn edrych ymlaen at gael mwynhau'r ŵyl.
"'Da ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r trefnu, ac yn edrych 'malen i gael penwythnos bach difyr," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio adeiladu ymhellach ar y rhaglen, gan gynnwys mwy o weithgareddau i blant y flwyddyn nesaf.