Y bocsiwr o Gaerdydd Joe Cordina yn ddieuog o ymosod ar ddyn y tu allan i orsaf betrol
Mae'r bocsiwr o Gaerdydd, Joe Cordina, wedi'i ddyfarnu'n ddieuog o ymosod ar ddyn yn ystod ffrae y tu allan i orsaf betrol.
Daeth barnwr rhanbarthol i'r casgliad nad oedd Mr Cordina, 34 oed, yn euog o ymosod ar Jamie O’Brien, 33 oed, yn dilyn achos yn Llys Ynadon Caerdydd.
Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad ddydd Mawrth, dywedodd y Barnwr Charlotte Murphy: "Rwy’n fodlon bod y diffynnydd yn credu ei bod yn angenrheidiol defnyddio grym er mwyn amddiffyn ei hun.
"Rwyf hefyd yn fodlon bod un dwrn bwyllog, reoledig yn gymesur o dan yr amgylchiadau.
"Mae’n hawdd iawn ystyried ymateb y diffynnydd drwy edrych ar y lluniau CCTV yn araf.
"Ond dim ond eiliad oedd gan y diffynnydd i ystyried ei ymateb i’r ergyd i'w ysgwydd."
Dywedodd y barnwr ei bod yn derbyn tystiolaeth Cordina ei fod wedi gwthio Mr O’Brien dro ar ôl tro "tra oedd ar y llawr er mwyn ei gadw draw oddi wrtho".
"Yn fy marn i, roedd hynny’n angenrheidiol ac roedd y grym a gafodd ei ddefnyddio yn gymesur o dan yr amgylchiadau," ychwanegodd.
"Rwy’n gwrthod unrhyw awgrym bod y diffynnydd yn dial mewn unrhyw ffordd.
"Dyma berson sydd wedi byw dan lygaid y cyhoedd ers blynyddoedd lawer ac sy'n ymwneud â’r cyhoedd yn ddyddiol.
"Am yr holl resymau hynny, nid yw’r Goron wedi profi’r achos i’r safon droseddol ofynnol.
"Felly, rwy’n dod i'r casgliad nad yw’r diffynnydd yn euog ac rwy’n gwrthod y cyhuddiad."
'Amddiffyn fy hun'
Yn ystod yr achos, clywodd y llys fod Mr Cordina, sydd wedi ennill teitl pencampwr byd yr IBF ddwywaith, wedi taro Mr O’Brien "yn reddfol" yn ystod ffrae y tu allan i orsaf betrol Pentwyn yng Nghaerdydd.
Roedd Mr Cordina wedi bod yn llenwi ei Land Rover â thanwydd cyn mynd at Mr O'Brien, oedd yn eistedd ar y palmant ger allanfa'r orsaf.
Roedd lluniau CCTV a gafodd eu dangos yn y llys yn dangos Mr O'Brien yn gwthio Mr Cordina gyda'i ysgwydd, cyn i'r bocsiwr ei daro â'i ddwrn "gyda digon o rym i'w fwrw i'r llawr'.
Clywodd y llys fod y ddau ddyn wedi parhau i ffraeo, gan daro ei gilydd.
Mae Mr O’Brien, o Bentwyn, eisoes wedi pledio’n euog yn flaenorol i gyhuddiad o ymosod.
Dechreuodd yr heddlu ymchwilio i’r digwyddiad ar ôl i fideo o’r ffrae y tu allan i'r orsaf betrol yng Nghaerdydd ym mis Chwefror gael ei rannu ar-lein.
Dywedodd Mr Cordina ei fod wedi meddwl ar y dechrau mai cefnogwr oedd Mr O’Brien a oedd eisiau tynnu llun, a disgrifiodd sut yr oedd wedi arfer cael ei adnabod bedair neu bum gwaith y dydd, gan ychwanegu: "Rwy’n gwneud amser i bawb."
Dywedodd wrth y llys ei fod wedi gweld Mr O’Brien yn syllu arno wrth iddo lenwi ei gar ac wedi galw arno i ddod ato.
Ond eglurodd bod O’Brien wedi ymateb: "Ti sy’n dod yma."
Dywedodd ei fod wedi gweithredu mewn hunanamddiffyniad oherwydd ei fod wedi teimlo dan fygythiad ar ôl i O’Brien "ruthro" ato.
"Roedd ei ddwylo yn ei bocedi, dydw i ddim yn gwybod beth mae pobl yn ei gario gyda nhw y dyddiau hyn," meddai wrth y llys.
Dywedodd Mr Cordina wrth y llys ei fod "bron yn sicr" y byddai mewn perygl o golli ei drwydded focsio pe bai’n cael euogfarn, a bod hyn wedi cael effaith ar y ffordd yr oedd yn ymddwyn o ddydd i ddydd.