Y Barri: Arestio dyn yn dilyn ymosodiad
Mae Heddlu’r De wedi arestio dyn yn dilyn ymosodiad ar yn y Barri nos Wener.
Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Skomer am tua 23:20 nos Wener.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi arestio dyn 30 oed o’r Barri ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol heb fwriad ar ôl i ddyn 43 oed, hefyd o’r Barri, gael ei gludo i’r ysbyty gydag anaf sylweddol i’w ben.
Mae’r dyn 30 oed wedi ei gadw yn y ddalfa.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600229849.
Llun: Google
