Bachgen tair oed angen CPR ar ôl mynd i'r dŵr mewn parc gwledig
Cafodd bachgen tair oed driniaeth CPR mewn parc gwledig ar ôl mynd i drafferth mewn dŵr ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi eu galw i Barc Gwledig Bryngarw am tua 14:20 ddydd Sadwrn.
Roedd aelod o'r cyhoedd wedi rhoi CPR i’r plentyn nes i ambiwlans gyrraedd.
Mae'r bachgen, sy'n dod o Gasnewydd, wedi cael ei gludo i'r ysbyty lle mae ei gyflwr yn cael ei ddisgrifio fel un sefydlog.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i'r digwyddiad.
Llun: Google
