AS Llafur yn bygwth herio Keir Starmer am yr arweinyddiaeth

Keir Starmer

Mae AS Llafur wedi dweud y bydd yn cychwyn cystadleuaeth arweinyddiaeth os na fydd gweinidog cabinet yn herio Keir Starmer fel arweinydd y blaid erbyn dydd Llun.

Dywedodd Catherine West wrth raglen PM ar Radio 4 mai ei dewis fyddai i’r cabinet gyflwyno eu “cyfathrebwr gorau” i gymryd lle’r Prif Weinidog.

Ond dywedodd yr AS dros Hornsey a Friern Barnet ei bod yn “rhybuddio” y bydd yn gofyn i ASau Llafur ei chefnogi mewn cystadleuaeth arweinyddiaeth os nad yw hynny’n diwgydd.

Mae angen i 20% o ASau Llafur — 81 o bobl — gefnogi ‘r heriwr er mwyn sbarduno cystadleuaeth arweinyddiaeth.

Dywedodd West, cyn-weinidog iau yn y Swyddfa Dramor, fod ganddi 10 o bobl ar hyn o bryd sy’n barod i’w chefnogi mewn ymgais i arwain.

Ond roedd yn “hyderus” y byddai eraill yn camu ymlaen i sbarduno cystadleuaeth.

“Fy newis i yw i’r cabinet, lle mae digon o dalent, ei ad-drefnu ei hun, ac i Keir gael rôl wahanol, un y gallai ei mwynhau, rôl ryngwladol efallai,” meddai.

“Yna i eraill ddod i’r amlwg sy’n gallu cyfleu’r neges, sydd yn alluog iawn, fel y gallwn fwrw ymlaen gyda chyn lleied o ffwdan â phosib.”

Nid yw West wedi dweud pwy mae hi’n credu fyddai’r person gorau i gymryd lle Starmer.

“Does gen i ddim ymgeisydd,” meddai. “Dyna ran o’r broblem.

“Ond rwy’n credu bod sawl person a hoffai wneud hynny, sydd wedi bod yn cynllunio ers misoedd, ond rwy’n synnu’n fawr nad oes yr un ohonyn nhw wedi dod i’r amlwg heddiw i ddweud ‘mi wnaf i hynny’.”

Ychwanegodd: “Mae angen i ni ddod â’r person i’r fei sy’n gallu gwerthu gwerthoedd Llafur a gwerthu ein rhaglen ni o ddifrif.”

Dywedodd West fod Starmer wedi gwneud gwaith “ardderchog” wrth ailadeiladu’r Blaid Lafur, ac ar bolisi tramor.

“Ond yr hyn rydym ni’n poeni amdano yw mynd â’r frwydr at Reform ar yr agenda ddomestig, rhywbeth rwy’n credu nad oes ganddo gymaint o afael arno,” meddai.

“A hefyd ceisio adnabod pleidleiswyr Llafur traddodiadol rydym ni wedi’u colli er mwyn i ni allu eu hennill yn ôl a gallu ennill y wlad yn etholiad cyffredinol 2029,” meddai.

Ychwanegodd: “Allwn ni ddim parhau gyda Keir fel ein prif lefarydd.”

'Uno'

Mae Keir Starmer wedi brwydro yn erbyn galwadau cynyddol i ymddiswyddo ar ôl etholiadau trychinebus Llafur yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n ymateb i ganlyniadau "anodd", a welodd Llafur yn cael ei gadael â naw aelod etholedig yn unig yn y Senedd a cholli mwy na mil o gynghorwyr yn Lloegr.

Mae rhai o aelodau San Steffan Llafur yn dal i gwestiynu ei safbwynt a dywedodd y dirprwy arweinydd Lucy Powell oni bai y gall y blaid ennill yn ôl y pleidleiswyr a gollwyd i Reform UK a'r Gwyrddion y byddai Nigel Farage yn cymryd allweddi i Rhif 10 yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae dwsinau o aelodau meinciau cefn Llafur wedi awgrymu'n gyhoeddus y dylai Syr Keir naill ai ymddiswyddo neu osod amserlen ar gyfer ei ymadawiad.

Bydd y Prif Weinidog yn ceisio defnyddio araith bwysig ddydd Llun ac yna Araith y Brenin ddydd Mercher i geisio ailosod ei brif weinidogiaeth yn sgil y frwydr etholiadol.

Mae Syr Keir wedi cael ei ddal gan gynnydd Reform UK ar y dde, gyda phlaid Mr Farage yn gwneud enillion a'r Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r SNP ar y chwith hefyd yn gwneud cynnydd yng nghadarnleoedd Llafur.

Ond wrth ysgrifennu yn y Guardian dywedodd Syr Keir: “Er bod yn rhaid i ni ymateb i’r neges y mae pleidleiswyr wedi’i hanfon atom, nid yw hynny’n golygu troi i’r dde na’r chwith.

“Mae’n golygu dod â mudiad gwleidyddol eang ynghyd, bod yn bendant ynglŷn â’n gwerthoedd, yn feiddgar yn ein gweledigaeth ac ymdrin â gofynion pobl.

“Uno yn hytrach na rhannu.”

'Cyfrifoldeb y Cabinet'

Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur, Lucy Powell y dylai Syr Keir aros yn ei swydd.

Dywedodd wrth Today ar Radio 4 y BBC: “Gan feddwl y byddai gosod rhyw fath o amserlen yn rhoi’r gorau i faterion arweinyddiaeth, rwy’n credu mai dyma’r casgliad anghywir yma mewn gwirionedd."

Yn Lloegr, collwyd cynghorau a fu’n rhan o’r Blaid Lafur am genedlaethau yn y gogledd, tra bod gafael y blaid ar Lundain hefyd wedi’i wanhau’n ddifrifol.

Dywedodd Clive Betts, un o aelodau seneddol mwyaf profiadol y Blaid Lafur, y dylai’r Cabinet ei gwneud yn glir i Syr Keir fod yn rhaid iddo fynd “yn y dyfodol agos”.

Dywedodd wrth Today ar BBC Radio 4: “Rwy’n credu bod cyfrifoldeb ar y Cabinet nawr i siarad â Keir ac i gydnabod, gan eu bod yn amlwg yn codi ar garreg y drws, na all hyn barhau am byth."

Nid yw’r cyn-ddirprwy arweinydd Angela Rayner, wedi gwneud sylw hyd yma ar y canlyniadau na chwaith Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham,.

Mae’r ddau yn cael eu hystryied fel olynwyr posib i Syr Keir Starmer.

Mae Syr Keir Starmer wedi apwyntio’r cyn-brif weinidog Gordon Brown fel cennad arbennig ar gyllid byd-eang a chyn-ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur y Farwnes Harriet Harman fel ei ymgynghorydd ar fenywod a merched.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.