Arweinydd Iran wedi ei ladd mewn cyrch milwrol gan Israel a'r UDA

Llun: Reuters
Ali Khamenei

Mae'r awdurdodau yn Iran wedi cadarnhau bod arweinydd y wlad, yr Ayatollah Ali Khamenei, wedi ei ladd yn dilyn ymosodiad milwrol gan Israel ag America ar y wlad ddydd Sadwrn.

Mae lluoedd Iran wedi anfon taflegrau at nifer o wledydd yn y rhanbarth sydd yn cynnwys canolfannau milwrol Americanaidd mewn ymgais i ddial.

Er bod arweinydiaeth Iran wedi ei tharo'n galed gan yr ymosodiadau milwrol, mae ansicrwydd mawr am yr union effaith ar ddyfodol y wlad yn y tymor byr - a'r effaith ehangach ar y Dwyrain Canol.

Mae Donald Trump wedi rhybuddio Iran rhag peidio dial am yr ymosodiadau ar y cyd gan yr Unol Daleithiau ac Israel, gan ddweud wrth y wlad y byddai'r Unol Daleithiau yn bwrw'n ôl "gyda grym na welwyd erioed o'r blaen".

Mewn neges ar blatfform Truth Social ddydd Sul, dywedodd Mr Trump: "Mae Iran newydd ddatgan eu bod nhw'n mynd i daro'n galed iawn heddiw, yn galetach nag y maen nhw erioed wedi taro o'r blaen.

"GWELL IDDYNT BEIDIO Â GWNEUD HYNNY, FODD BYNNAG, OHERWYDD OS YDYNT YN GWNEUD, BYDDWN YN EU TARO Â GRYM NAD YW ERIOED WEDI'I WELD O'R BLAEN! Diolch am eich sylw i'r mater hwn! Arlywydd DONALD J. TRUMP."

Image
Iran

Daeth ei neges ar ôl i Warchodlu Chwyldroadol Iran ddweud y byddai'n lansio ei "ymgyrch ymosodol fwyaf dwys" erioed mewn ymateb i'r ymosodiadau marwol ar y wlad fore Sadwrn. 

Nos Sadwrn, cyhoeddodd Donald Trump fod yr Ayatollah Khamenei, "un o'r bobl mwyaf dieflig mewn hanes, wedi marw". 

Yn gynharach roedd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud fod "arwyddion cynyddol" bod arweinydd Iran wedi "mynd".

Roedd asiantaeth newyddion Reuters, gan ddyfynnu uwch swyddog o Israel, hefyd yn adrodd bod corff yr Ayatollah Ali Khamenei wedi'i ddarganfod.

Dywedodd Donald Trump fod y newyddion am farwolaeth yr Ayatollah "nid yn unig yn gyfiawnder i bobl Iran, ond i bob Americanwr Mawr, a'r bobl hynny o lawer o wledydd ledled y byd, sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu gan Khamenei a'i griw o ddrwgweithredwyr gwaedlyd. 

"Nid oedd yn gallu osgoi ein Cudd-wybodaeth a'n Systemau Olrhain Hynod Soffistigedig a, thrwy weithio'n agos gydag Israel, nid oedd dim y gallai ef, na'r arweinwyr eraill a laddwyd ynghyd ag ef, ei wneud. 

"Dyma'r cyfle mwyaf i bobl Iran adennill eu Gwlad".

Image
Map Swyddfa Gartref
Mae'r Swyddfa Dramor wedi rhybuddio pobl rhag teithio i unrhyw ran o Iran

Fe wnaeth Syr Keir Starmer drafod y sefyllfa yn y Dwyrain Canol gyda Donald Trump nos Sadwrn meddai Downing Street.

Siaradodd y Prif Weinidog â Mr Trump dros y ffôn, meddai llefarydd.

Ychwanegodd y llefarydd fod Syr Keir wedi “nodi bod y DU yn cymryd rhan mewn camau amddiffynnol rhanbarthol i amddiffyn pobl Prydain a phartneriaid rhanbarthol yn dilyn ymosodiadau Iran ar gynghreiriaid yn y rhanbarth”.

Mae'r Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper wedi condemnio ymosodiadau Iran ar ôl i dân ddechrau mewn gwesty yn Dubai.

Mewn datganiad ar X, dywedodd Ms Cooper ei bod wedi siarad gydag Ysgrifennydd Tramor yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, Abdullah bin Zayed Al Nahyan, “i fynegi ein undod â'r Emiradau Arabaidd Unedig”.

Ychwanegodd: “Mae'r golygfeydd yng Ngwesty'r Palm yn Dubai yn ofnadwy. Mae'r DU yn condemnio'r ymosodiadau Iranaidd hyn.”

Ar draws y Dwyrain Canol mae'r  Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar, Gwlad yr Iorddonen, Kuwait a Bahrain - pob un yn gartref i ganolfannau milwrol yr Unol Daleithiau - yn dweud eu bod wedi dinistrio taflegrau Iran oedd yn eu gofod awyr ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad ar y cyd gydag arweinwyr Ffrainc a'r Almaen dywedodd Syr Keir fod "rhaid i Iran ymatal rhag ymosodiadau milwrol ar hap."

"Rydym yn condemnio’n gryf ymosodiadau Iran ar wledydd yn y rhanbarth," meddai'r datganiad.

"Mae rhaid i Iran ymatal rhag ymosodiadau milwrol ar hap. Rydym yn annog arweinyddiaeth Iran i chwilio am ddatrysiad trwy drafodaeth yn lle ymosodiadau.

"Dylai pobl Iran gael yr hawl i ddewis eu dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.