Arweinydd Castell-nedd Port Talbot yn ymddiswyddo ar ôl ymddygiad amhriodol

Steven Hunt

Mae arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymddiswyddo ar ôl cyfaddef iddo yfed gormod o alcohol mewn digwyddiad gwleidyddol cyn syrthio. 

Dywedodd y cynghorydd Steve Hunt y "dylai fod wedi defnyddio mwy o synnwyr". 

Ond fe wnaeth wadu honiadau ei fod wedi brolio am yfed potel gyfan o jin.

Fe fydd yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd annibynnol, ac fe fydd arweinydd newydd yn cael ei ddewis fis nesaf.

Ychwanegodd fod honiadau ei fod wedi ymosod ar yr iaith Gymraeg a gwariant cyhoeddus ar yr iaith yn anghywir. 

Roedd Mr Hunt wedi wynebu beirniadaeth gan gydweithwyr ar y cyngor ar ôl cael ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yr wythnos diwethaf.

Dywedodd: "Dwi'n derbyn, oherwydd fy mod i yn feddw, fy mod i wedi bod yn rhan o drafodaethau gwleidyddol gydag arweinwyr gwleidyddol, yn enwedig aelodau o Blaid Cymru. 

"Roeddwn i’n sôn am y blaid wleidyddol rwyf wedi’i chofrestru, y Wales Communities First Independent Party, ac rwy’n derbyn i mi wneud sylw am fod eisiau “dileu” Plaid Cymru yn wleidyddol.

"Roedd hwnnw yn sylw gwleidyddol anaddas tra'r oeddwn i yn feddw, a dwi'n cymryd cyfrifoldeb amdano. 

"Roedd amgylchiadau personol hefyd y tu ôl i fy ymddygiad, ac rwy'n credu eu bod yn cynnig cyd-destun perthnasol. Mae rôl Arweinydd y Cyngor yn hynod heriol ac yn golygu lefel sylweddol o bwysau a chyfrifoldeb."

Fe fydd arweinydd newydd yn cael ei benodi mewn cyfarfod cyngor sydd wedi'i drefnu ar hyn o bryd i'w gynnal ar 14 Hydref 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.