Arolwg newydd yn awgrymu y gallai Plaid Cymru a Reform ennill yr un nifer o seddi

Dan Thomas a Rhun ap Iorwerth

Mae arolwg barn newydd yn awgrymu y gallai Plaid Cymru a Reform ennill yr un nifer o seddi yn Etholiad y Senedd ar 7 Mai. 

Mae'r arolwg gan More in Common yn awgrymu y gallai'r ddwy blaid ennill 34 sedd yr un, gan adael y ddwy yn brin o fwyafrif, sef 49 sedd.

Yn ôl yr arolwg, byddai disgwyl i'r Blaid Lafur ennill 14 sedd, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig â naw sedd, a'r Blaid Werdd yn ennill pum sedd. 

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu na fyddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ennill unrhyw seddi. 

Cafodd 2,159 o bobl eu holi fel rhan o'r arolwg rhwng mis Mawrth ac Ebrill eleni.

Dyma mae'r arolwg yn ei awgrymu o ran canran y bleidlais a nifer y seddi:

- Plaid Cymru - 30% - 34 sedd
 
- Reform UK - 27% - 34 sedd
 
- Llafur - 16% - 14 sedd
 
- Y Ceidwadwyr - 12% - 9 sedd
 
- Y Gwyrddion - 9% - 5 sedd
 
- Y Democratiaid Rhyddfrydol - 4% - dim un sedd
 

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol More in Common UK, Luke Tryl: "Gyda llai nag wythnos i fynd, mae'r ras wedi tynhau. 

"Fel y gwelsom ni ar drothwy is-etholiad Caerffili, mae Llafur yn cael eu gwasgu yn y dyddiau olaf wrth i bleidleiswyr gefnogi Plaid Cymru fel y dewis arall i Reform.

"Ar ôl bron i dri degawd yn arwain y Senedd, fe allai Llafur fethu â chyrraedd y brig mewn unrhyw etholaeth a chael eu gwthio i'r trydydd safle. 

"I Reform, fe fyddai hyn yn cynrychioli datblygiad eithriadol - o fynd o beidio â chystadlu fwy neu lai yn yr etholiad Senedd diwethaf i fod bellach yn y gystadleuaeth am y nifer uchaf o seddi.

"Plaid Cymru sy'n cario'r fantell newid, ac mae'n ymddangos eu bod nhw'n ennill momentwm wrth i ni gyrraedd y llinell derfyn."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r pleidiau am eu hymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.