Arestio nifer o ddynion wrth i bobl gael eu symud o’u tai ger safle yr awyrlu yn Lloegr

RAF Fairford

Mae nifer o ddynion wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau o dan y Ddeddf Ffrwydron ac mae pobl wedi cael eu symud o "nifer" o gartrefi yn ardal Whelford, ger RAF Fairford, yn ôl Heddlu Sir Gaerloyw.

Mae ‘digwyddiad difrifol’ wedi'i ddatgan, gyda heddlu arfog yn gwarchod safle'r ganolfan awyr sy'n cael ei ddefnyddio gan Awyrlu'r Unol Daleithiau.

Mae presenoldeb sylweddol gan y gwasanaethau brys yn yr ardal, gan gynnwys Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus (HART).

Dywedodd Heddlu Sir Gaerloyw: "Mae pobl yn cael eu symud o nifer o eiddo ar hyn o bryd yn ardal Whelford yn dilyn datganiad o ddigwyddiad difrifol.

"Daw hyn yn dilyn arestio nifer o ddynion ar amheuaeth o droseddau o dan y Ddeddf Ffrwydron.

"Mae tîm arbenigol y Fyddin ar gyfer cael gwared o ffrwydron yn archwilio nifer o gerbydau ar hyn o bryd."

Mae'r trigolion lleol yn cael eu symud i ganolfan hamdden gerllaw yn ôl y llu.

Ychwanegodd yr heddlu: "Mae llinell ddiogelwch ar waith ar hyn o bryd ond hoffem dawelu meddwl pobl ein bod yn credu bod y digwyddiad hwn wedi ei gyfyngu.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid ac yn gweithredu'r cynlluniau sydd wedi'u paratoi a'u hymarfer yn dda."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.