Arestio dyn wedi wedi 'anhrefn treisgar' yng Nghasnewydd

Oliphant Circle

Cyhoeddodd Heddlu Gwent fod dyn 35 oed o Gaerloyw wedi ei arestio ac yn y ddalfa mewn cysylltiad ag "anhrefn treisgar" yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn. 

Yn ôl y llu, daeth adroddiadau tua 18:15  fod criw o ddynion wedi bod yn ymladd yn ardal Oliphant Circle.

Aeth swyddogion yno ac archwilio'r ardal. 

Doedd neb yno erbyn hynny a dim adroddiadau fod unrhyw un wedi ei anafu, yn ôl yr heddlu. 

Ond cafodd gwn aer ei ddarganfod gerllaw. 

Mae'r llu hefyd wedi dod o hyd i dri char sydd o ddiddordeb iddyn nhw.  

Wrth i'w hymchwiliad barhau, maen nhw'n apelio am wybodaeth gan ofyn i bobl gysylltu â nhw drwy ddyfynnu'r rhif 2600111121.

Dywedodd y Ditectif Brifarolygydd Matthew Edwards: "Rydym yn deall bod adroddiadau o'r natur hwn yn achosi pryder yn ein cymunedau.

"Tra ein bod yn cadw meddwl agored ar hyn o bryd, 'dyw hi ddim yn ymddangos fod y digwyddiad hwn yn gysylltiedig â'r hyn ddigwyddodd ger Graham Bell Close y diwrnod blaenorol."

Bryd hynny cafodd tri o blant yn eu harddegau eu hanafu mewn digwyddiad yn ardal Malpas yn y dref.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw wedi adroddiadau fod ymosodiad mewn coetir ger Graham Bell Close, toc cyn 19:00 nos Wener.

Yn ôl y llu, aeth tri dyn at y plant, sef merch 14 oed a dau fachgen 14 a 15 oed, a'r gred yw bod un o'r dynion yn cario gwn aer.

Yn ôl adroddiadau, cafodd y tri phlentyn eu taro gan beled, ac mae honiadau i'r bachgen 14 oed ddioddef ymosodiad corfforol.     

Mae'r llu yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad hwnnw hefyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.